Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 49

Jacob yn bendithio'i feibion

1 Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai.

2 “Dewch yma i wrando, feibion Jacob;

gwrandwch ar Israel, eich tad.

3 Reuben, ti ydy fy mab hynaf;

fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni –

yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.

4 Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr –

fyddi di ddim yn gyntaf.

Est ti i mewn i wely dy dad,

a'i lygru drwy dreisio fy ngwraig –

gorwedd ar glustogau dy dad!

5 Mae Simeon a Lefi yn frodyr.

Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol.

6 Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth –

dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl.

Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynion

fel rhai'n gwneud ych yn gloff am hwyl.

7 Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy;

am ddigio a bod mor greulon.

Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw

ar hyd a lled Israel!

8 Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di.

Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion.

Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di.

9 Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifanc

wedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben.

Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew,

a does neb yn meiddio aflonyddu arno.

10 Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda.

Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddion

nes daw pobl i dalu teyrnged iddo.

Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo.

11 Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden,

a'i asen ifanc wrth y winwydden orau.

Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin

a'i glogyn yng ngwaed y grawnwin.

12 Bydd ei lygaid yn gochion gan win,

a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.

13 Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr.

Bydd yn hafan ddiogel i longau.

Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.

14 Mae Issachar fel asyn cryf

yn gorwedd dan bwysau ei baciau.

15 Gwelodd le da i orffwys

a bod y wlad yno yn hyfryd.

Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefn

a chael ei hun yn gaethwas.

16 Bydd Dan yn rheoli ei bobl

fel un o lwythau Israel.

17 Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd –

fel gwiber ar y llwybr

yn brathu troed y ceffyl

a gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.

18 Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD!

19 Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad,

ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.

20 Bydd bwyd cyfoethog gan Asher.

Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol.

21 Mae Nafftali fel ewig, yn rhedeg yn rhydd,

sy'n cael llydnod hardd.

22 Mae Joseff yn goeden ffrwythlon –

coeden ffrwythlon wrth ffynnon,

a'i changhennau'n ymestyn dros y wal.

23 Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno,

yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn.

24 Ond daliai ei fwa'n llonydd

ac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim.

Roedd Un Cryf Jacob gydag e –

y Bugail, Craig Israel.

25 Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di;

y Duw sy'n rheoli popeth. Ref

Bydd e'n dy fendithio di

gyda'r bendithion o'r awyr uchod,

a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod,

gyda bendithion y fron a'r groth.

26 Mae'r bendithion gafodd dy dad

yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol

a'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi.

Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff –

ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.

27 Mae Benjamin fel blaidd rheibus,

yn rhwygo'i ysglyfaeth yn y bore,

ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”

28 Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.

Jacob yn marw a chael ei gladdu

29 Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Ref Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad. 30 Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i'w deulu. 31 Dyna lle mae Abraham a'i wraig Sara wedi'u claddu. Dyna lle mae Isaac a'i wraig Rebeca wedi'u claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea. 32 Cafodd y darn tir a'r ogof sydd arno ei brynu gan yr Hethiaid.”

33 Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i'w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity