Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 5

O Adda i Noa

(1 Cronicl 1:1-4)

1 Dyma restr deuluol Adda:

Pan greodd Duw bobl, gwnaeth nhw i fod yn ddelw ohono'i hun. 2 Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw, bendithiodd nhw, a rhoi'r enw ‛dynoliaeth‛ iddyn nhw.
  • 3 Pan oedd Adda yn 130 oed, cafodd fab a'i alw'n Seth. Roedd Seth yr un ffunud â'i dad.
4 Buodd Adda fyw am 800 mlynedd ar ôl i Seth gael ei eni, a chafodd blant eraill. 5 Felly roedd Adda yn 930 oed yn marw.
  • 6 Pan oedd Seth yn 105 oed cafodd ei fab Enosh ei eni.
7 Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill. 8 Felly roedd Seth yn 912 oed yn marw.
  • 9 Pan oedd Enosh yn 90 oed cafodd ei fab Cenan ei eni.
10 Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill. 11 Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw.
  • 12 Pan oedd Cenan yn 70 oed cafodd ei fab Mahalal-el ei eni.
13 Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill. 14 Felly roedd Cenan yn 910 oed yn marw.
  • 15 Pan oedd Mahalal-el yn 65 oed cafodd ei fab Iered ei eni.
16 Buodd Mahalal-el fyw am 830 mlynedd ar ôl i Iered gael ei eni, a chafodd blant eraill. 17 Felly roedd Mahalal-el yn 895 oed yn marw.
  • 18 Pan oedd Iered yn 162 oed cafodd ei fab Enoch ei eni.
19 Buodd Iered fyw am 800 mlynedd ar ôl i Enoch gael ei eni, a chafodd blant eraill. 20 Felly roedd Iered yn 962 oed yn marw.
  • 21 Pan oedd Enoch yn 65 oed cafodd ei fab Methwsela ei eni.
22 Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill. 23 Felly dyma Enoch yn byw i fod yn 365 oed. 24 Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw, ond yn sydyn doedd e ddim yna. Roedd Duw wedi'i gymryd i ffwrdd.
  • 25 Pan oedd Methwsela yn 187 oed cafodd ei fab Lamech ei eni.
26 Buodd Methwsela fyw am 782 o flynyddoedd ar ôl i Lamech gael ei eni, a chafodd blant eraill. 27 Felly roedd Methwsela yn 969 oed yn marw.
  • 28 Pan oedd Lamech yn 182 oed cafodd fab,
29 a'i alw yn Noa. Ref Dwedodd, “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o'r gwaith caled o drin y tir mae'r ARGLWYDD wedi'i felltithio.” 30 Buodd Lamech fyw am 595 mlynedd ar ôl i Noa gael ei eni, a chafodd blant eraill. 31 Felly roedd Lamech yn 777 oed yn marw.
  • 32 Pan oedd Noa yn 500 mlwydd oed roedd ganddo dri mab – Shem, Cham a Jaffeth.
  • I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity