Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 6

Drygioni'r ddynoliaeth

1 Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni, 2 dyma'r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw'n cymryd y rhai roedden nhw'n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw'u hunain. 3 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.” 4 Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.

5 Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser. 6 Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi'i frifo a'i ddigio. 7 Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi'i chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi'u creu nhw yn y lle cyntaf.”

8 Ond roedd Noa wedi plesio'r ARGLWYDD.

Noa

9 Dyma hanes Noa a'i deulu:

Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw. 10 Roedd ganddo dri mab, sef Shem, Cham a Jaffeth.

11 Roedd y byd wedi'i sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman. 12 Gwelodd Duw fod y byd wedi'i sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg. 13 Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i'n mynd i'w dinistrio nhw, a'r byd hefo nhw. 14 Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi'i gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a'i selio hi y tu mewn a'r tu allan â phyg. 15 Gwna hi'n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder. 16 Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, ac adeilada dri llawr ynddi – yr isaf, y canol a'r uchaf. 17 Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear a boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw. 18 Ond bydda i'n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di'n mynd i mewn i'r arch – ti a dy feibion, dy wraig di a'u gwragedd nhw.

19 “Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i'r arch hefo ti i'w cadw'n fyw, sef un gwryw ac un benyw. 20 Dau o bob math o adar, pob math o anifeiliaid a phob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i'w cadw'n fyw. 21 Dos â bwyd o bob math gyda ti hefyd, a'i storio. Digon o fwyd i chi ac i'r anifeiliaid.”

22 A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity