Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 8

Y dŵr yn gostwng

1 Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr. 2 Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio. 3 Dechreuodd y dŵr fynd i lawr. 4 Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau, Ref glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5 Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg.

6 Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest 7 ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear. 8 Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld a oedd y dŵr wedi mynd. 9 Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch. 10 Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto. 11 Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd. 12 Yna arhosodd am wythnos arall cyn anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.

13 Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd oedd ar do'r arch, a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu. 14 Erbyn y seithfed ar hugain o'r ail fis roedd y ddaear yn sych.

15 A dyma Duw yn dweud wrth Noa, 16 “Dos allan o'r arch, ti a dy deulu. 17 Tyrd â phopeth allan – yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall – dw i eisiau iddyn nhw gael haid o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.” 18 Felly dyma Noa a'i wraig, a'i feibion a'u gwragedd nhw, yn mynd allan o'r arch. 19 A daeth yr anifeiliaid i gyd, a'r ymlusgiaid, a'r adar allan yn eu grwpiau.

Noa yn aberthu i'r ARGLWYDD

20 Yna cododd Noa allor i'r ARGLWYDD ac aberthu rhai o'r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel offrwm i'w losgi. 21 Roedd yr aberth yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac meddai wrtho'i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio'r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw'n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud.

22 Tra mae'r byd yn bod,

bydd amser i blannu a chasglu'r cynhaeaf;

bydd tywydd oer a thywydd poeth,

haf a gaeaf, nos a dydd.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity