Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 9

Ymrwymiad Duw a Noa

1 Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear. 2 Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw. 3 Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen. 4 Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed). 5 Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd.

6 Mae rhywun sy'n lladd person arall

yn haeddu cael ei ladd ei hun,

am fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth

yn ddelw ohono'i hun.

7 Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”

8 A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion, 9 “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion, 10 a hefyd gyda phob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch. 11 Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear. 12 A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth: 13 Dw i'n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda'r ddaear. 14 Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i'w gweld yn y cymylau, 15 bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto. 16 Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.” 17 A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”

Noa a'i feibion

18 Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.) 19 Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw.

20 Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan. 21 Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell. 22 Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr. 23 Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw'n edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.

24 Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi'i wneud, 25 ac meddai,

“Melltith ar Canaan!

Bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”

26 Wedyn dwedodd Noa,

“Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem!

Bydd Canaan yn gaethwas iddo.

27 Boed i Dduw roi digonedd o le Ref i Jaffeth,

a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem.

A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.”

28 Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw. 29 Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity