Yn ôl

Habacuc

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HABACUC 1

1 Y neges gafodd y proffwyd Habacuc gan yr ARGLWYDD:

Habacuc yn cwyno am anghyfiawnder

2 “ ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw

cyn i ti fy ateb i?

Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’

ond ti ddim yn achub.

3 Pam wyt ti'n caniatáu y fath anghyfiawnder?

Pam wyt ti'n gadael i'r fath ddrygioni fynd yn ei flaen?

Does dim i'w weld ond dinistr a thrais!

Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!

4 Mae'r gyfraith wedi colli ei grym,

a does dim cyfiawnder byth.

Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed,

a chyfiawnder wedi'i dwistio'n gam.”

Yr ARGLWYDD yn ateb Habacuc

5 “Edrychwch ar y cenhedloedd,

a cewch sioc go iawn.

Mae rhywbeth ar fin digwydd

fyddwch chi ddim yn ei gredu,

petai rhywun yn dweud wrthoch chi!

6 Dw i'n codi'r Babiloniaid –

y genedl greulon a gwyllt

sy'n ysgubo ar draws y byd

yn concro a dwyn cartrefi pobl eraill.

7 Maen nhw'n codi braw ac arswyd ar bawb.

Maen nhw'n falch ac yn gwneud fel y mynnant.

8 Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard,

ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos.

Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr,

ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.

9 Trais ydy eu hunig fwriad.

Maen nhw'n hollol benderfynol,

ac yn casglu carcharorion rif y tywod.

10 Maen nhw'n gwneud sbort o frenhinoedd,

ac yn chwerthin ar lywodraethwyr.

Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw;

maen nhw'n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu.

11 Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt!

Dynion sy'n addoli eu grym milwrol;

a byddan nhw'n cael eu galw i gyfri.”

Habacuc yn cwyno eto

12 “Ond ARGLWYDD,

ti ydy'r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau!

Ti ydy'r Duw Sanctaidd,

fyddi di byth yn marw!

ARGLWYDD, ti'n eu defnyddio nhw i farnu!

Ein Craig, rwyt ti wedi'u penodi nhw i gosbi!

13 Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni!

Sut alli di esgusodi annhegwch?

Sut wyt ti'n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus?

Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg

yn llyncu pobl sy'n well na nhw?

14 Rwyt ti'n gwneud pobl fel pysgod,

neu greaduriaid y môr heb neb i'w harwain.

15 Mae'r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn;

mae'n eu llusgo nhw yn y rhwyd a daflodd.

Wrth eu casglu gyda'i rwyd bysgota

mae'n dathlu'n llawen ar ôl gwneud mor dda.

16 Wedyn mae'n cyflwyno aberthau

ac yn llosgi arogldarth i'w rwydau.

Nhw sy'n rhoi bywyd bras iddo,

a digonedd i'w fwyta.

17 Ydy e'n mynd i gael dal ati i wagio ei rwydi,

a dinistrio gwledydd yn ddidrugaredd?

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity