Yn ôl

Habacuc

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HABACUC 3

Habacuc yn addoli'r ARGLWYDD

1 Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar “Shigionoth”.

2 ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti'n gallu ei wneud.

Mae'n syfrdanol!

Gwna'r un peth eto yn ein dyddiau ni.

Dangos dy nerth yn ein dyddiau.

Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni!

3 Dw i'n gweld Duw yn dod eto o Teman;

a'r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Ref

Saib

Mae ei ysblander yn llenwi'r awyr,

ac mae'r ddaear i gyd yn ei foli.

4 Mae e'n disgleirio fel golau llachar.

Daw mellten sy'n fforchio o'i law,

lle mae'n cuddio ei nerth.

5 Mae'r pla yn mynd allan o'i flaen,

a haint yn ei ddilyn.

6 Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu;

pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn.

Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio,

a'r bryniau oesol yn suddo,

wrth iddo deithio'r hen ffyrdd.

7 Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig,

a llenni pebyll Midian Ref yn crynu.

8 Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD?

Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd?

Wyt ti wedi digio gyda'r môr?

Ai dyna pam wyt ti wedi dringo i dy gerbyd?

– cerbyd dy fuddugoliaeth.

9 Mae dy fwa wedi'i dynnu allan,

a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti.

Saib

Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.

10 Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod.

Mae'n arllwys y glaw,

a'r storm ar y môr yn rhuo

a'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.

11 Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd;

mae fflachiadau dy saethau,

a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.

12 Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt,

a sathru'r gwledydd dan draed.

13 Ti'n mynd allan i achub dy bobl;

i achub y gwas rwyt wedi'i eneinio.

Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg,

a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon.

Saib

14 Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain,

wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni.

Roedden nhw'n chwerthin a dathlu

wrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.

15 Roedd dy geffylau yn sathru'r môr,

ac yn gwneud i'r dŵr ewynnu.

16 Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi,

a'm gwefusau'n crynu.

Roedd fy nghorff yn teimlo'n wan,

a'm coesau'n gwegian.

Dw i'n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini

ddod ar y bobl sy'n ymosod arnon ni.

17 Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo,

a'r grawnwin heb dyfu yn y winllan;

Pan mae'r coed olewydd wedi methu,

a dim cnydau ar y caeau teras;

Pan does dim defaid yn y gorlan,

nac ychen yn y beudy;

18 Drwy'r cwbl, bydda i'n addoli'r ARGLWYDD

ac yn dathlu'r Duw sydd yn fy achub i!

19 Mae'r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi,

ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carw

sy'n crwydro'r ucheldir garw.

I'r arweinydd cerdd: ar offerynnau llinynnol.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity