Yn ôl

Haggai

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HAGGAI 1

Cyflwyniad

1 Ar ddiwrnod cynta'r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, Ref dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel, Ref llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad:

Duw yn gorchymyn ailadeiladu'r Deml

2 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Mae'r bobl yma'n dweud, ‘Mae'n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’”

3 Ond yna dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD: 4 “Ydy hi'n iawn eich bod chi'n byw yn eich tai crand, tra mae'r deml yma yn adfail? 5 Felly dyma mae yr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!

6 Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf;

dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;

dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni;

dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes;

mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennill

yn mynd i bwrs sydd â thwll ynddo!

7 Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

8 ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml;

bydd hynny'n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’

—meddai'r ARGLWYDD.

9 ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da,

ond yn cael cnydau gwael.

Roeddech chi'n ei gasglu,

ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!

10 Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith,

a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.

11 Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad –

ar y bryniau,

ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydd

a phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear,

ar bobl ac anifeiliaid,

ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”

Y bobl yn ufuddhau

12 Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi'i anfon. Roedd y bobl yn parchu'r ARGLWYDD eto.

13 Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r ARGLWYDD.”

14 Dyma'r ARGLWYDD yn annog Serwbabel fab Shealtiel (llywodraethwr Jwda), Jehoshwa fab Iehotsadac (yr archoffeiriad), a phawb arall hefyd i weithredu: a dyma nhw'n bwrw iddi â'r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus. 15 Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o'r chweched mis. Ref

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity