Yn ôl

Hebreaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HEBREAID 1

Y Mab yn bwysicach na'r angylion

1 Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda'n hynafiaid ni drwy'r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. 2 Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy'n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd. 3 Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi'n bosib i bobl gael eu glanhau o'u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.Croes 4 Roedd wedi'i wneud yn bwysicach na'r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.

5 Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed:

“Ti ydy fy Mab i;

heddiw des i'n dad i ti”?Croes

Neu hyn:

“Bydda i'n dad iddo fe,

A bydd e'n fab i mi”?Croes

6 Ac wrth i Dduw ddod â'i fab hynaf yn ôl i'r byd nefol i'w anrhydeddu, mae'n dweud:

“Addolwch e, holl angylion Duw!” Croes

7 Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel:

“negeswyr sydd fel gwyntoedd,

a gweision sydd fel fflamau o dân.” Croes

8 Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn:

“Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth,

a byddi'n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.

9 Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;

felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di,

a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.” Croes

10 A hefyd,

“O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf,

a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.

11 Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros;

byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi'u gwisgo.

12 Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn;

byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad.

Ond rwyt ti yn aros am byth –

dwyt ti byth yn mynd yn hen.” Croes

13 Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?:

“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd Ref

nes i mi wneud i dy elynion blygu

fel stôl i ti orffwys dy draed arni.” Croes

14 Dim ond gweision ydy'r angylion. Ysbrydion wedi'u hanfon i wasanaethu'r rhai fydd yn cael eu hachub!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity