Yn ôl

Hebreaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HEBREAID 6

1 Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy'n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae'n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto – yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy'n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw; 2 y ddysgeidiaeth am fedydd; comisiynu pobl drwy osod dwylo arnyn nhw; y ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw ac y bydd Duw yn barnu beth fydd yn digwydd i bobl yn dragwyddol. 3 A gyda help Duw dyna wnawn ni – symud yn ein blaenau!

4 Mae'n gwbl amhosib arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato. Dyma'r bobl welodd oleuni'r gwirionedd unwaith. Cawson nhw brofi rhodd hael Duw, a derbyn yr Ysbryd Glân gydag eraill. 5 Cawson nhw flas ar neges Duw a nerthoedd yr oes sydd i ddod. 6 Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw'n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a'i wneud yn destun sbort i bobl.

7 Mae Duw yn bendithio'r ddaear drwy anfon glaw i'w mwydo'n gyson, ac mae'r tir yn rhoi cnwd da i'w ddefnyddio gan y ffermwr sy'n trin y tir. 8 Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a'i losgi yn y diwedd.Croes

9 Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi – bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub. 10 Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi'i wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny! 11 Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi'n derbyn yn llawn y cwbl dych chi'n edrych ymlaen ato. 12 Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy'n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar – nhw ydy'r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi'i addo.

Mae beth mae Duw wedi'i addo yn sicr

13 Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai'n gwneud beth oedd wedi'i addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! – doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo! 14 A dyma ddwedodd e: “Dw i'n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” Croes 15 Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi'i addo iddo.

16 Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw'n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw'n ei addo. Mae'r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi'i ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl. 17 Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai'n gwneud beth roedd wedi'i addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw.

18 Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw – dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni'n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi'i roi i ni. 19 Mae'r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i'n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o'n blaenau ni, tu ôl i'r llen, i mewn i'r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw. 20 Ydy, mae Iesu wedi mynd i mewn yno ar ein rhan ni. Fe ydy'r un “sy'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” Croes

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity