Yn ôl

Hebreaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HEBREAID 8

Archoffeiriad y drefn newydd

1 Y pwynt ydy hyn: mae'r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i'r Duw Mawr ei hun.Croes 2 Dyna'r cysegr mae hwn yn gweini ynddo – y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi'i chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol. 3 A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno.

4 Petai'r gweini hwn yn digwydd ar y ddaear, fyddai Iesu ddim yn gallu bod yn offeiriad, am fod offeiriaid eisoes ar gael i gyflwyno'r rhoddion mae'r Gyfraith Iddewig yn eu gorchymyn. 5 Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.” Croes 6 Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un – mae wedi'i wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell.

7 Petai'r drefn gyntaf wedi bod yn ddigonol fyddai dim angen un arall. 8 Ond roedd bai ar y bobl yng ngolwg Duw, a dyna pam ddwedodd e:

“‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r Arglwydd,

‘pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd

gyda phobl Israel a Jwda.’

9 ‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un

wnes i gyda'u hynafiaid

(pan afaelais yn eu llaw

a'u harwain allan o'r Aifft).

Wnaethon nhw ddim cadw

eu hochr nhw o'r cytundeb,

felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’

meddai'r Arglwydd.

10 ‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud

gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd:

‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau

ac wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau.

Fi fydd eu Duw nhw,

a nhw fydd fy mhobl i.

11 Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill,

a dweud wrth ei gilydd,

“Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,”

achos bydd pawb yn fy nabod i,

o'r lleia i'r mwya.

12 Bydda i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le,

ac yn anghofio'u pechodau am byth.’” Croes

13 Drwy ddefnyddio'r gair ‛newydd‛ i ddisgrifio'r ymrwymiad yma, mae Duw'n dweud fod y llall yn hen. Os ydy rhywbeth yn hen ac yn perthyn i'r oes o'r blaen, yn fuan iawn mae'n mynd i ddiflannu'n llwyr!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity