Yn ôl

Hosea

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HOSEA 10

Gwrthod Addoliad Israel

1 Roedd Israel fel gwinwydden iach

a'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau.

Ond po fwya o ffrwyth gafwyd,

mwya o allorau a godwyd.

Wrth i gnydau'r tir lwyddo

byddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.

2 Maen nhw'n rhagrithio,

felly byddan nhw'n cael eu cosbi.

Bydd yr ARGLWYDD ei hun

yn chwalu'r allorau

ac yn malu'r colofnau.

3 Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef,

“Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD.

Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”

4 Maen nhw'n llawn geiriau gwag,

addewidion wedi'u torri,

a chytundebau diwerth.

Mae achosion llys yn lledu

fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi'i aredig.

5 Bydd pobl Samaria yn ofni

beth ddigwydd i lo Beth-afen. Ref

Bydd y bobl yn galaru

gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu,

am fod ei ysblander wedi'i gipio,

6 a'i gario i Asyria

yn anrheg i'r brenin mawr.

Anufudd-dod a chosb Israel

Bydd Effraim Ref yn destun sbort,

ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.

7 Bydd Samaria'n cael ei dinistrio,

a'i brenin yn cael ei gipio

fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.

8 Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio –

sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu.

Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau.

Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!”

ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!”Croes

Yr ARGLWYDD yn cyhoeddi barn ar Israel

9 “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. Ref A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea? 10 A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.

11 Roedd Effraim fel heffer wedi'i hyfforddi,

ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn.

Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf,

a gêr i wneud i Effraim aredig.

Bydd rhaid i Jwda aredig

a Jacob lyfnu'r tir ei hun!

12 Heuwch hadau cyfiawnder,

a chewch gynhaeaf o gariad gen i.

Trin tir eich calon galedCroes –

ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddod

gyda chawodydd achubiaeth.

13 Ond rwyt wedi plannu drygioni,

a medi anghyfiawnder,

ac yna bwyta ffrwyth y twyll.

Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel,

a phwyso ar faint dy fyddin.

14 Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl,

a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio.

Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Ref Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant. 15 Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.” Ref

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity