Yn ôl

Hosea

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HOSEA 13

Mae hi ar ben ar Israel!

1 Pan oedd llwyth Effraim yn siarad

roedd pawb yn crynu –

roedd pawb yn ei barchu yn Israel.

Ond buont ar fai yn addoli Baal,

a dyna oedd eu diwedd.

2 Ac maen nhw'n dal i bechu!

Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd;

eilunod cywrain wedi'u gwneud o arian –

ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl!

Mae yna ddywediad amdanyn nhw:

“Mae'r bobl sy'n aberthu

yn cusanu teirw!”

3 Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,

neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar;

fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu,

neu fwg sy'n dianc drwy ffenest.

4 “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw,

ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.

Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –

Fi ydy'r unig un sy'n achub!

5 Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch,

mewn tir sych, diffaith. Ref Croes

6 Ond wedi'u bwydo, roedden nhw'n fodlon –

mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch,

ac yna fy anghofio i!

7 Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,

ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.

8 Bydda i'n ymosod arnyn nhw

fel arth wedi colli ei chenawon;

a'u llarpio nhw fel llew,

neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.

9 Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel!

Pwy sydd yna i dy helpu di?

10 Ble mae dy frenin,

iddo fe dy achub di?

Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi?

Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.Croes

11 Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig,

a dw i wedi'i gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!Croes

12 Mae'r dyfarniad ar Effraim Ref wedi'i gofnodi,

a'i gosb wedi'i gadw'n saff iddo.

13 Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi;

mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwl

yn gwrthod dod allan o'r groth, a byw.

14 Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw?Croes

Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth?

O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?

O fedd! Ble mae dy ddinistr di?

Fydda i'n dangos dim trugaredd!”

Bydd Samaria'n cael ei dinistrio

15 Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors,

ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain

i fyny o gyfeiriad yr anialwch.

Bydd y dŵr yn sychu, a'r ffynhonnau'n diflannu,

a'r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.

16 Bydd Samaria Ref yn cael ei galw i gyfri

am wrthryfela yn erbyn ei Duw.

Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel,

plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,

a'r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo'n agored.Croes

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity