Yn ôl

Hosea

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HOSEA 7

1 dw i eisiau iacháu Israel.

Ond mae pechod Effraim yn y golwg,

a drygioni Samaria Ref mor amlwg.

Maen nhw mor dwyllodrus!

Mae lladron yn torri i mewn i'r tai,

a gangiau'n dwyn ar y strydoedd.

2 Dŷn nhw ddim yn sylweddoli

fy mod i'n gweld y drwg i gyd.

Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw –

dw i'n ei weld o flaen fy llygaid!

3 Mae'r brenin yn mwynhau gweld drwg

a'r tywysogion yn twyllo.

4 Maen nhw i gyd yn godinebu!

Maen nhw fel popty crasboeth –

does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tân

tra mae'n tylino'r toes,

na pan mae'n cael ei bobi!

5 Mae'r brenin yn cynnal parti,

ac mae'r tywysogion yn meddwi;

Mae e'n cynllwynio gyda phaganiaid

6 ac yn troi ata i gan fwriadu brad.

Bwriadau sydd fel popty poeth,

yn mudlosgi drwy'r nos

ac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore.

7 Maen nhw i gyd fel popty crasboeth,

yn lladd eu llywodraethwyr.

Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio,

a does dim un yn galw arna i!

Israel a'r Cenhedloedd

8 Mae Effraim Ref wedi cymysgu gyda'r cenhedloedd.

Mae fel bara tenau wedi'i losgi ar un ochr!

9 Mae estroniaid yn sugno'i nerth,

a dydy e ddim wedi sylwi!

Mae fel hen ddyn a'i wallt yn britho

heb iddo sylwi!

10 Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.

Wnân nhw ddim troi'n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw!

Er gwaetha'r cwbl maen nhw'n gwrthod troi ato.

11 Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i'w thwyllo –

mae'n galw ar yr Aifft am help,

ac wedyn yn troi at Asyria.

12 Bydda i'n taflu fy rhwyd i'w rhwystro rhag hedfan;

bydda i'n eu dal nhw fel dal adar,

ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw'n heidio at ei gilydd.

13 Gwae nhw am geisio dianc oddi wrtho i!

Dinistr gân nhw am wrthryfela yn fy erbyn i!

Sut alla i eu gollwng nhw'n rhydd

pan maen nhw'n dweud celwydd amdana i?

14 Dŷn nhw ddim yn galw arna i o ddifrif.

Maen nhw'n gorweddian ar eu gwlâu yn gweiddi,

a thorri eu hunain â chyllyll Ref wrth ofyn am ŷd a grawnwin.

Maen nhw wedi troi cefn arna i,

15 er mai fi wnaeth eu dysgu nhw.

Fi wnaeth eu gwneud nhw'n gryf,

ond maen nhw'n cynllwynio i wneud drwg i mi.

16 Maen nhw'n troi at Baal!

Maen nhw fel bwa llac, yn dda i ddim.Croes

Byddan nhw'n cael eu lladd gan y gelyn

am siarad mor hy yn fy erbyn.

Byddan nhw'n destun sbort i bobl yr Aifft.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity