Yn ôl

Hosea

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

HOSEA 9

Addoliad paganaidd Israel

1 O Israel, stopia ddathlu

a gweiddi'n llawen fel y paganiaid;

ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw.

Ti'n hoffi derbyn cyflog putain

wrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu!

2 Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl,

a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi.

Y gaethglud yn gwrthdroi'r exodus

3 Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD.

Bydd Effraim Ref yn mynd yn ôl i'r Aifft,

ac yn bwyta bwyd aflan Ref yn Asyria.

4 Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD,

nac offrymu aberthau iddo.

Bydd yr aberthau'n aflan,

fel bwyd pobl sy'n galaru;

bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru.

Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig;

fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.

5 Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl –

sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r ARGLWYDD? Ref

6 Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr,

bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,

a Memffis Ref yn eu claddu nhw.

Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau

a mieri'n meddiannu eu tai.

7 Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd!Croes

Mae dydd y farn wedi dod!

Mae'n bryd i Israel wybod!

Israel yn gwrthod neges y proffwyd

“Mae'r proffwyd yn hurt!

Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!”

Ti wedi pechu gymaint,

ac mor llawn casineb!

8 Mae'r proffwyd yn wyliwr

dros Effraim ar ran Duw.

Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau;

a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.

9 Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth,

fel digwyddodd yn Gibea gynt. Ref

Bydd Duw yn delio gyda'u drygioni

ac yn eu cosbi am eu pechodau.

10 Roedd darganfod Israel

fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.

I mi, roedd dy hynafiaid

fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.

Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor,

a rhoi eu hunain i eilun cywilyddusCroes –

cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd

â'r eilun roedden nhw'n ei addoli.

Y gosb i ddod

11 “Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth! 12 Hyd yn oed petaen nhw'n magu plant, bydda i'n eu cipio nhw i ffwrdd – fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw! 13 Rôn i'n gweld Effraim fel coeden balmwydd wedi'i phlannu mewn cae hyfryd, ond byddan nhw'n dod â'i plant allan i'w lladd.”

14 Rho iddyn nhw, ARGLWYDD –

Ond beth roi di iddyn nhw? –

Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu!

15 “Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal, Ref

dw i'n eu casáu nhw.

Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tir

o achos eu holl ddrygioni.

Dw i ddim yn eu caru nhw bellach;

mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.

16 Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed –

mae'r gwreiddyn wedi sychu;

a does dim ffrwyth yn tyfu.

A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant,

byddwn i'n lladd eu babis bach del!”

17 Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhw

am beidio gwrando arno;

ac yn gwneud iddyn nhw grwydro

ar goll ymhlith y cenhedloedd!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity