Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 10

1 Gwae'r rhai sy'n rhoi dyfarniad anghyfiawn

ac ysgrifennu deddfau sy'n gormesu pobl.

2 Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd,

a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus.

Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon,

ac yn ysbeilio plant amddifad!

3 Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi,

pan fydd dinistr yn dod o bell?

At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help?

I ble'r ewch chi i guddio eich trysor?

4 Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill,

neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd!

Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,

Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

Duw yn defnyddio ac yn cosbi Asyria

5 Gwae Asyria, y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig.Croes

Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltio yn ei llaw hi.

6 Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol,

ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i,

i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draed fel baw ar y stryd.

7 Ond dim dyna ydy bwriad Asyria –

rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg.

Ei bwriad hi ydy dinistrio,

a difa gwledydd yn llwyr – llawer ohonyn nhw!

8 Mae'n meddwl,

“Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi.

9 Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish,

a Chamath fel Arpad,

a Samaria fel Damascus? Ref

10 Gan fy mod i wedi cael gafael

yn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau –

gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwau

na Jerwsalem a Samaria –

11 bydda i'n gwneud yr un peth i Jerwsalem a'i heilunod

ag a wnes i i Samaria a'i delwau.”

12 Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun. 13 Am feddwl fel hyn:

“Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf.

Roedd gen i strategaeth glyfar,

a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd.

Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw,

ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw.

14 Cefais afael ar gyfoeth y gwledydd

mor hawdd â dwyn wyau o nyth:

heb neb yn fflapio'i adenydd

nac yn agor ei big i drydar.”

15 Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin?

Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio?

Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi!

Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!

16 Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD hollbwerus—

yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach;

bydd twymyn yn taro'i ysblander

ac yn llosgi fel tân.

17 Bydd Golau Israel yn troi'n dân,

a'r Un Sanctaidd yn fflam.

Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,

18 a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr.

Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.

19 Bydd cyn lleied o goed ar ôl,

bydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!

Dim ond criw bach fydd ar ôl

20 Bryd hynny,

fydd y rhai sydd ar ôl yn Israel

a'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi dianc

ddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw;

Byddan nhw'n pwyso'n llwyr

ar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.

21 Bydd rhan fechan,

ie, rhan fechan o Jacob

yn troi yn ôl at y Duw cryf.

22 Israel, hyd yn oed petai dy bobl

mor niferus â thywod y môr,

dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl.

Mae'r dinistr yn sicr.

Mae'r gosb sydd wedi'i haeddu yn dod fel llifogydd!

23 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,

yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi'i ddyfarnu ar y tir.

24 Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria – er iddi dy daro di gyda'i gwialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid. 25 Yn fuan iawn bydd fy llid wedi'i dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”

26 Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn chwifio'i chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr. 27 Bryd hynny,

bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,

a bydd iau Asyria'n cael ei thorri oddi ar dy war

am ei fod mor hunanfodlon.

Y gelyn yn ymosod

28 Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath, Ref

ac yna aeth ymlaen i Migron

cyn paratoi ei gêr yn Michmas.

29 Yna croesi'r bwlch

ac aros yn Geba Ref dros nos.

Roedd Rama wedi dychryn,

a phobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.

30 “Rho sgrech, Bath-galîm!

Gwrando'n astud, Laisha!

Ateb hi, Anathoth!”

31 Mae Madmena yn ffoi,

a phobl Gebîm yn cuddio.

32 Heddiw mae'r gelyn yn Nob Ref

yn ysgwyd ei ddwrn bygythiol

yn erbyn Mynydd Seion

a bryn Jerwsalem!

33 Edrych! Mae'r Meistr—yr ARGLWYDD hollbwerus—

yn mynd i hollti canghennau'r coed gyda nerth brawychus.

Bydd yn torri'r coed talaf i lawr,

a bydd y rhai uchel yn syrthio.

34 Bydd yn torri drwy ddrysni'r goedwig gyda bwyell,

a bydd coed mawr Libanus yn cwympo.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity