Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 14

Pobl yr ARGLWYDD yn dod adre

1 Ond bydd yr ARGLWYDD yn maddau i Jacob,

ac yn dewis Israel unwaith eto.

Bydd yn eu gosod nhw yn eu tir eu hunain,

a bydd ffoaduriaid yn ymuno gyda nhw

ac yn uniaethu gyda phobl Jacob.

2 Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad.

Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw,

i'w drin gan eu gweision a'u morynion.

Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw,

ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.

Marwolaeth brenin Babilon!

3 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas, 4 byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon:

“Ble mae'r gormeswr wedi diflannu?

Mae ei falchder wedi dod i ben!

5 Mae'r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg,

a gwialen y gormeswyr.

6 Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd

yn ddi-stop.

Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd

a'u herlid yn ddi-baid.

7 Bellach mae'r ddaear yn dawel a digyffro,

ac mae'r bobl yn canu'n llawen.

8 Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus,

a'r coed cedrwydd yn Libanus yn canu:

‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr,

dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’

9 Mae byd y meirw isod mewn cyffro,

yn barod i dy groesawu di –

bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd,

a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear

yn codi oddi ar eu gorseddau.

10 Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di,

‘Felly, ti hyd yn oed – rwyt tithau'n wan fel ni!

11 Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau

wedi eu tynnu i lawr i Annwn! Ref

Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat

a phryfed genwair yn flanced drosot ti!

12 Y fath gwymp!

Rwyt ti, seren ddisglair, mab y wawr,

wedi syrthio o'r nefoedd!

Ti wedi dy dorri i lawr i'r ddaear –

ti oedd yn sathru'r holl wledydd!

13 Roeddet ti'n meddwl i ti dy hun,

“Dw i'n mynd i ddringo i'r nefoedd,

a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw.

Dw i'n mynd i eistedd ar fynydd y gynulleidfa

yn y gogledd pell. Ref

14 Dw i'n mynd i ddringo ar gefn y cymylau,

a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”

15 O'r fath gwymp –

rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw,

i'r lle dyfnaf yn y Pwll!

16 Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni:

“Ai hwn ydy'r dyn wnaeth i'r ddaear grynu,

a dychryn teyrnasoedd?

17 Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch,

a dinistrio'i ddinasoedd –

heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’

18 Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd – pob un ohonyn nhw –

yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.

19 Ond ti? – Cest ti dy adael heb dy gladdu,

yn ffiaidd, fel ffetws wedi'i erthylu.

Fel corff marw yn y dillad a wisgai

pan gafodd ei drywanu â'r cleddyf.

Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll,

neu gorff yn cael ei sathru dan draed.

20 Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill,

am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun

a lladd dy bobl dy hun.

Boed i neb fyth eto gofio'r

fath hil o bobl ddrwg!

21 Paratowch floc i ddienyddio'i feibion

o achos drygioni eu tad.

Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu'r tir

a llenwi'r byd gyda'i dinasoedd!”

Bydd Duw yn cosbi Babilon

22 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:

“Bydda i'n codi yn eu herbyn nhw.

Bydda i'n dileu pob enw o Babilon,

a lladd phawb sy'n dal ar ôl yno,

eu plant a'u disgynyddion i gyd.

23 Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogod

a'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd.

Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr.”

—yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.

Duw yn cosbi Asyria

24 Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi tyngu llw:

“Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i;

bydd fy nghynlluniau'n dod yn wir.Croes

25 Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir,

ac yn ei sathru ar fy mryniau.

Bydd ei hiau yn cael ei thynnu oddi ar fy mhobl,

a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.

26 Dyna'r cynllun sydd gen i

ar gyfer y ddaear gyfan.

Dyna pam mae fy llaw yn barod

i ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.”

27 Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus gynllun –

pwy sy'n mynd i'w rwystro?

Mae ei law yn barod i weithredu –

pwy sy'n mynd i'w ddal yn ôl?

Cosbi'r Philistiaid

28 Neges gafodd ei rhoi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw: Ref Croes

29 Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd,

am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi'i thorri.

O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi,

gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.Croes

30 Bydd y tlotaf o'r tlawd yn cael pori,

a'r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel.

Ond bydda i'n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn,

a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl.

31 Udwch wrth y giatiau a sgrechian yn y ddinas;

mae Philistia i gyd mewn dychryn!

Achos mae cwmwl yn dod o'r gogledd,

a does neb yn ei rengoedd yn llusgo'i draed.

32 Beth ydy'r ateb i negeswyr y genedl?

Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff,

a bod lloches yno i'w bobl anghenus.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity