Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 17

Cosbi Damascus

1 Neges am Damascus:

“Edrychwch ar Damascus!

Dydy hi ddim yn ddinas bellach –

pentwr o gerrig ydy hi!Croes

2 Bydd ei phentrefi yn wag am byth –

lle i breiddiau orwedd heb neb i'w dychryn.

3 Bydd trefi caerog Effraim, Ref

a sofraniaeth Damascus yn diflannu.

Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria

yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!”

—yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.

4 “Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu,

a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd.

5 Yn lle bod fel cae o ŷd yn cael ei gynaeafu,

a breichiau'r medelwr yn llawn,

bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffa yn Nyffryn Reffaïm –

6 dim ond ychydig loffion fydd ar ôl.

Bydd fel ysgwyd coeden olewydd,

a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf,

a phedair neu bump o'r prif ganghennau,”

—meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel.

7 Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr.

Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,

8 yn lle syllu ar yr allorau godon nhw,

polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth

– eu gwaith llaw eu hunain.

9 Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi'u dinistrio'n llwyr.

10 Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub;

ac anwybyddu'r Graig – dy gaer ddiogel.

Felly rwyt yn trin gerddi i'r ‛Anwylyd‛, Ref

a plannu sbrigyn i dduw estron!

11 Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu;

ei weld yn blaguro y bore hwnnw

a disgwyl pentwr o gynhaeaf!

Ond y cwbl gei di fydd pryder a phoen na ellir ei gwella!

Duw yn cosbi gelynion ei bobl

12 Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod!

Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr;

mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo.

13 Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr,

bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi.

Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt,

neu blu ysgall o flaen corwynt.

14 Fin nos, daw dychryn sydyn,

ond erbyn y bore does dim ar ôl.

Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio,

dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity