Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 18

Duw yn cosbi Ethiopia

1 Gwae wlad yr adenydd chwim

wrth afonydd dwyrain Affrica! Ref Croes

Mae'n anfon negeswyr dros y môr,

mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.

2 Ewch, negeswyr cyflym,

at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn –

pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman;

cenedl gref sy'n hoffi ymladd,

sydd â'i thir wedi'i rannu gan afonydd.

3 “Gwrandwch, bawb drwy'r byd i gyd,

pawb sy'n byw ar y ddaear:

byddwch yn ei weld!

– fel baner ar ben y bryniau;

byddwch yn ei glywed!

– fel sŵn y corn hwrdd Ref yn cael ei chwythu!”

4 Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i:

“Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle –

fel tes yr haul yn tywynnu,

neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”

5 Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae'r blagur wedi mynd,

a'r grawnwin yn dechrau aeddfedu,

bydd yn torri'r brigau gyda chyllell,

ac yn tocio'r canghennau sy'n lledu.

6 Bydd y cwbl yn cael ei adael

i'r eryrod ar y mynydd ac i'r anifeiliaid gwyllt.

Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw,

a'r anifeiliaid gwyllt drwy'r gaeaf.

7 Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn

yn dod â rhoddion i'r ARGLWYDD hollbwerus –

pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman,

cenedl gref sy'n hoffi ymladd,

sydd â'i thir wedi'i rannu gan afonydd.

Dônt i'r lle mae enw'r ARGLWYDD hollbwerus arno:

i Fynydd Seion.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity