Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 2

Heddwch fydd yn para am byth

(Micha 4:1-3)

1 Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:

2 Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD

wedi'i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,

a'i godi'n uwch na'r bryniau.

Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,

3 a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:

“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, Ref

a mynd i deml Duw Jacob,

iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,

ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”

Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,

a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

4 Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddCroes

ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.

Byddan nhw'n curo'u cleddyfau yn sychau aradr

a'u gwaywffyn yn grymanau tocio.

Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,

nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.Croes

5 Bobl Jacob – dewch!

gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD.

Pobl anufudd

6 Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl,

pobl Jacob,

am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain,

yn dweud ffortiwn fel y Philistiaid

ac yn gwneud busnes gydag estroniaid.

7 Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur;

does dim diwedd ar eu trysorau.

Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel;

does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.

8 Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,

ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –

pethau maen nhw eu hunain wedi'u creu!

9 Bydd pobl yn cael eu darostwng

a phawb yn cywilyddio –

paid maddau iddyn nhw!

Duw yn barnu

10 Ewch i guddio yn y graig,

a chladdu eich hunain yn y llwch,

rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD

eich dychryn chi!

11 Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder,

a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri.

Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol

bryd hynny!

12 Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus ddiwrnod arbennig

i ddelio gyda phob un balch a snobyddlyd,

a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!

13 Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus,

sydd mor dal ac urddasol;

gyda choed derw Bashan;

14 gyda'r holl fynyddoedd uchel

a'r bryniau balch;

15 gyda phob tŵr uchel,

a phob wal solet;

16 gyda llongau masnach Tarshish, Ref

a'r cychod pleser i gyd.

17 Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr,

a hunanhyder pobl yn syrthio.

Dim ond yr ARGLWYDD

fydd yn cael ei ganmol bryd hynny!

18 Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu.

19 Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau

a thyllau yn y ddaear –

rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD

eu dychryn pan fydd yn dod

ac yn gwneud i'r ddaear grynu.

20 Bryd hynny, bydd pobl

yn taflu'r eilunod arian a'r eilunod aur

i'r tyrchod daear a'r ystlumod –

yr eilunod wnaethon nhw i'w haddoli.

21 Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau,

a hafnau yn y clogwyni,

rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD

eu dychryn pan fydd yn dod

ac yn gwneud i'r ddaear grynu.

22 Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn pobl

sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau!

Achos pa werth sydd iddyn nhw?

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity