Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 20

Eseia'n proffwydo cwymp yr Aifft a theyrnas Cwsh

1 Roedd hi'r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod, Ref a'i choncro. 2 Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a thynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed.

3 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy'n rhybudd i'r Aifft a theyrnas Cwsh yn nwyrain Affrica: Ref Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed, 4 bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh – ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a'u tinau yn y golwg – bydd yn sarhad ar yr Aifft! 5 Byddan nhw'n ddigalon, a bydd ganddyn nhw gywilydd o'r Affricaniaid (y rhai roedden nhw wedi gobeithio ynddyn nhw), a'r Aifft (y rhai roedden nhw'n eu brolio).

6 “Bryd hynny, bydd y rhai sy'n byw ar yr arfordir yma yn dweud, ‘Os ydy hyn wedi digwydd i'r Aifft, pa obaith sydd i ni? Roedden ni wedi gobeithio mai nhw fyddai'n ein helpu ni ac yn ein hachub rhag brenin Asyria.’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity