Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 21

Cwymp Babilon Ref

1 Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon):

Fel y gwyntoedd stormus sy'n rhuthro drwy'r Negef,

mae e'n dod o'r anialwch, o wlad sydd i'w hofni.

2 Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi:

“Mae'r bradwr yn bradychu, a'r dinistrydd yn dinistrio!

Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media!

Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi'i achosi.”

3 Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;

Mae poenau yn gafael yno i

fel gwraig mewn poen wrth gael babi.

Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed,

ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.

4 Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig.

Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:

5 Mae “Trefnwch wledd”

wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!”

“Bwytwch ac yfwch!”

wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tarianau!”

6 Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:

“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,

a dweud beth mae'n ei weld.

7 Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,

marchog ar asyn neu farchog ar gamel,

dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”

8 Yna mae'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel:

“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd,

ac wedi edrych allan bob nos.

9 Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –

dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!”

Ac mae'n gweiddi'n uchel,

“Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio!

Mae'r delwau o'i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!”

10 Chi sydd wedi dioddef – fy mhobl ar fy llawr dyrnu:

dw i wedi dweud wrthoch chi

beth glywais i gan yr ARGLWYDD hollbwerus,

Duw Israel.

Cosbi Edom

11 Neges am Dwma:

Mae rhywun yn galw arna i o Seir: Ref

“Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?

Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”

12 Atebodd y gwyliwr,

“Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl.

Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.

Trowch! Dewch yn ôl!”

Cosbi Arabia

13 Neges am Arabia:

Cuddiwch yn nrysni'r anialwch, chi grwydriaid Dedan! Ref

14 Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig, chi sy'n byw yn Tema; Ref

rhowch fara i'r ffoaduriaid.

15 Maen nhw'n dianc rhag y rhyfel,

rhag y cleddyf sydd wedi'i dynnu o'r wain,

rhag y bwa sy'n barod i saethu,

a rhag caledi'r frwydr.

16 Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union Ref bydd ysblander Cedar Ref wedi darfod; 17 nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity