Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 22

Cosbi Jerwsalem

1 Neges am ‛Ddyffryn y Weledigaeth‛: Ref

Beth sy'n digwydd yma?

Pam mae pawb wedi mynd i ben y toeau?

2 Roeddet ti mor llawn bwrlwm –

yn ddinas mor swnllyd;

yn dre oedd yn llawn miri!

Nid cleddyf wnaeth ladd dy feirwon,

na'r frwydr chwaith.

3 Rhedodd dy arweinwyr.,

a dianc i le pell i ffwrdd;

cafodd pawb oedd ar ôl eu dal

heb help run bwasaethwr.

4 Dyna pam dw i'n dweud,

“Gadewch lonydd i mi,

gadewch i mi wylo'n chwerw!

Peidiwch boddran ceisio fy nghysuro

am fod fy mhobl druan wedi'u dinistrio.”

5 Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,

wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch –

yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio,

a phobl yn gweiddi ar y mynydd.

6 Mae Elam wedi codi'r gawell saethau,

gyda'i marchogion a'i cherbydau,

ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tarianau.

7 Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau,

yn llawn cerbydau,

a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau.

8 Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi'i symud.

Felly, bryd hynny, dyma chi'n mynd

i Blas y Goedwig Ref i nôl yr arfau.

9 Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchau

yn waliau Dinas Dafydd.

Dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf,

10 cyfri'r tai yn Jerwsalem a chwalu rhai

er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel.

11 Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wal

i ddal dŵr yr hen lyn.

Ond gymeroch chi ddim sylw o'r Un wnaeth y cwbl,

na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm.

12 Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,

yn galw ar bobl i wylo a galaru,

i siafio'r pen a gwisgo sachliain.

13 Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri,

lladd gwartheg a defaid, bwyta cig ac yfed gwin.

“Gadewch i ni gael parti ac yfed,

falle byddwn ni'n marw fory!”

14 Rôn i wedi clywed yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw.” Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.

Rhybudd i Shefna

15 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, “Dos i ofyn i'r swyddog – y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas:

16 ‘Beth sy'n digwydd yma?

Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma?

Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig;

naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!

17 Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd –

dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn!

Bydd yn dy lapio di'n dynn,

18 yn dy rolio i fyny fel pelen

ac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn!

A dyna ble byddi di'n marw.

Yr unig gerbydau crand i gario dy gorff

fydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr!

19 Dw i'n mynd i dy ddiswyddo di!

Byddi di'n cael dy fwrw i lawr o dy safle!

20 Bryd hynny bydda i'n galw ar fy ngwas Eliacim fab Chilceia, 21 ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a'r sash sydd am dy ganol. Bydda i'n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e'n gofalu am bawb sy'n byw yn Jerwsalem a phobl Jwda i gyd. 22 Bydda i'n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae'n ei agor, nac agor yr hyn mae e'n ei gau. 23 Bydda i'n ei osod yn gadarn yn ei le – fel hoelen wedi'i tharo i wal. Bydd e'n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad. 24 Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o'r egin a'r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a'r gwahanol jariau yn hongian arno.’” 25 “Bryd hynny,”—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—“bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae'r ARGLWYDD wedi dweud!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity