Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 23

Cosbi Tyrus

1 Neges am Tyrus:Croes

Udwch, longau masnach Tarshish! Ref

Does dim porthladd i fynd adre iddo

– achos mae wedi'i ddryllio!

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.

2 Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir,

chi fasnachwyr Sidon.

Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi,

3 wedi croesi'r dyfroedd mawr

gyda had o Sihor a chynhaeaf afon Nîl;

dyna oedd ei henillion –

hi oedd marchnad y gwledydd.

4 Cywilydd arnat ti, Sidon,

achos mae'r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud,

“Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant.

Dw i heb fagu bechgyn na merched ifanc!”

5 Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth

byddan nhw'n gwingo mewn poen

wrth glywed am Tyrus.

6 Croeswch drosodd i Tarshish –

udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!

7 Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi –

y ddinas sydd â hanes mor hen iddi?

Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?

8 Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus,

y ddinas oedd yn gwisgo coron,

a'i masnachwyr yn dywysogion

ac yn bobl mor bwysig?

9 Yr ARGLWYDD hollbwerus drefnodd y peth –

i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch,

a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.

10 Hwyliwch adre, bobl Tarshish,

i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth afon Nîl;

does dim harbwr i chi yma bellach.

11 Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môr

gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn!

Yr ARGLWYDD roddodd orchymyn

i ddinistrio trefi caerog Canaan.

12 Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch,

ferch Sidon, sydd wedi'i gorthrymu.”

Dos! Cod, a chroesa drosodd i Cyprus,

ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!

13 Edrychwch ar wlad Babilonia –

y bobl sydd wedi peidio â bod!

Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwyllt.

Codi tyrau i warchae arni,

ysbeilio'i phlastai a'i throi yn adfeilion.

14 Udwch, longau masnach Tarshish,

achos mae eich caer ddiogel wedi'i dinistrio!

15 Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:

16 Cymer delyn, crwydra'r ddinas,

butain a anghofiwyd;

Cân dy alaw unwaith eto,

i wneud i bobl gofio.

17 Achos, ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi. 18 Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD; fyddan nhw ddim yn cael eu cadw a'u storio. Bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity