Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 25

Cân o fawl i Dduw

1 ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i!

Dw i'n dy ganmol di, dw i'n moli dy enw!

Ti wedi gwneud peth rhyfeddol –

rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl;

ti'n gwbl ddibynadwy!

2 Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig,

troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion!

Gaiff y palas estron fyth ei ailadeiladu!

3 Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di,

a threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!

4 Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio,

yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng,

yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul.

Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,

5 neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir,

rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid.

Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres,

ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.

Duw yn paratoi gwledd

6 Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus

yn paratoi gwledd o fwyd blasus i'r cenhedloedd i gyd:

gwledd o winoedd aeddfed,

bwyd blasus gyda'r gwin gorau.

7 Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llen

sy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd,

a'r gorchudd sy'n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd.

8 Bydd marwolaeth wedi'i lyncu am byth.

Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD,

yn sychu'r dagrau oddi ar bob wyneb,

a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir.

—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

9 Bryd hynny bydd y bobl yn dweud:

“Dyma'n Duw ni, yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub.

Dyma'r ARGLWYDD roedden ni'n ei drystio.

Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.”

10 Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn.

Cosbi Moab

Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo

fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen.Croes

11 Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol,

fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio.

Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo

hefo symudiad ei ddwylo.

12 Bydd y waliau diogel sy'n eu hamddiffyn

yn cael eu bwrw i lawr ganddo;

bydd yn eu chwalu i'r llawr –

nes byddan nhw yn y llwch.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity