Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 27

Achub Israel

1 Bryd hynny,

bydd yr ARGLWYDD

yn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog,

gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur –

Lefiathan, y neidr droellog;

a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr. Ref Croes

2 Bryd hynny byddwch yn canu'r gân, "Y Winllan Hyfryd":

3 Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gofalu amdani,

ac yn ei dyfrio hi bob amser.

Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd,

rhag i rywun wneud niwed iddi.

4 Dw i ddim yn ddig bellach:

petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,

byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,

ac yn eu llosgi nhw'n ulw.

5 Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,

rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;

ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.

6 Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,

ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –

bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.

7 Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?

Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e?

8 Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif.

Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryf ar ddydd y storm.

9 Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,

a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:

Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd

fel petaen nhw'n garreg galch –

a pholion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth

wedi'u torri i gyd.

10 Mae'r ddinas gaerog wedi'i gadael yn wag,

cartrefi gwag wedi'u gadael fel tir diffaith.

Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr

ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.

11 Yna mae'r brigau'n sychu ac yn torri,

ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.

Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;

felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd,

doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.

12 Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o afon Ewffrates i Wadi'r Aifft; Ref a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un! 13 Bryd hynny, bydd y corn hwrdd Ref yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, Ref yn Jerwsalem.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity