Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 28

Cosbi Samaria

1 Gwae Samaria!

Bydd coron falch meddwon Effraim Ref yn syrthio,

a'i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo –

blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon.

Maen nhw'n chwil gaib!

2 Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr

sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol –

fel storm pan mae'r glaw yn arllwys i lawr

ac yn bwrw popeth i'r llawr.

3 Bydd coron falch meddwon Effraim

wedi'i sathru dan draed,

4 a'i blodau wedi gwywo –

y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon.

Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i'r cynhaeaf ddod.

Bydd rhywun yn sylwi arni

ac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi.

5 Bryd hynny,

bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn goron hardd,

ac yn dorch wedi'i phlethu'n hyfryd

i'r bobl fydd wedi'u gadael ar ôl.

6 Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu,

a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas.

Proffwydi meddw Jwda

7 Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win;

maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw.

Mae'r offeiriad a'r proffwyd

wedi meddwi'n gaib ar gwrw

a drysu'n lân ar win.

Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw,

a'u gweledigaethau'n ddryslyd;

maen nhw'n baglu wrth farnu.

8 Mae chwŷd a charthion dros y byrddau i gyd;

does dim lle'n lân o gwbl.

9 “Pwy mae e'n gallu ei ddysgu?

I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth?

I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest falle!

10 Fel ailadrodd llythrennau'r wyddor,

‘a, b’, ‘a, b’,

‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’,

tyrd yma, bach; fan yma, bach!”

11 O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhw

fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.

12 Roedd wedi dweud wrthyn nhw yn y gorffennol:

“Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys;

dyma le i chi orwedd i lawr.”

Ond doedd neb yn fodlon gwrando.

13 Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw:

“‘a, b’, ‘a, b’,

‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’,

tyrd yma, bach; fan yma, bach!”

Wrth geisio codi i gamu yn eu blaenau

byddan nhw'n syrthio ar eu tinau,

yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal.

Conglfaen yn Seion

14 Felly dyma neges yr ARGLWYDD

i chi sy'n gwawdio,

chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!

15 Chi sy'n brolio,

“Dŷn ni wedi gwneud cytundeb â Marwolaeth,

a tharo bargen i osgoi'r bedd.

Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio,

fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni.

Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio,

a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”

16 Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:

“Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion,

carreg ddiogel,

conglfaen gwerthfawr,

sylfaen hollol gadarn.

Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.

17 Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur,

a thegwch yn llinyn plwm.

Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio,

a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi.

18 Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri,

a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu.

Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio,

chi fydd yn diodde'r difrod.

19 Bydd yn eich taro chi

bob tro y bydd yn dod.

Bydd yn dod un bore ar ôl y llall,

bob dydd a bob nos.”

Bydd deall y neges yma

yn achosi dychryn ofnadwy.

20 Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno,

a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!

21 Bydd yr ARGLWYDD yn codi

fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; Ref

bydd yn cyffroi i wneud ei waith

fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon Ref –

ond bydd yn waith rhyfedd!

Bydd yn cyflawni'r dasg –

ond bydd yn dasg ddieithr!

22 Felly, stopiwch wawdio,

rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau.

Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,

yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan.

Doethineb Duw

23 Gwrandwch yn astud ar hyn!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud.

24 Ydy'r sawl sy'n aredig

yn aredig drwy'r amser heb hau?

Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid?

25 Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'n

gwasgaru ffenigl a hadau cwmin?

Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes,

haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?

26 Ei Dduw sy'n ei ddysgu;

mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo.

27 Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled,

na cwmin gydag olwyn trol.

Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon,

a chwmin gyda gwialen.

28 Mae gwenith yn cael ei falu,

ond ddim yn ddiddiwedd.

Mae olwyn trol yn rholio drosto,

ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru.

29 A'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd –

Mae ganddo gynllun gwych,

ac mae'n rhyfeddol o ddoeth.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity