Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 3

Barn ar Jerwsalem a Jwda

1 Edrychwch!

Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus

yn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwda

bopeth sy'n eu cynnal a'u cadw nhw:

bwyd a dŵr,

2 arwyr a milwyr dewr;

barnwr a phroffwyd,

yr un sy'n dewino a'r arweinydd;

3 grŵp-gapten a swyddog,

strategydd a hudwr medrus,

a'r un sy'n sibrwd swynau.

4 Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw,

a bwlis creulon i'w rheoli nhw.

5 Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd –

un yn erbyn y llall.

Bydd pobl ifanc yn ymosod ar hen bobl,

a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.

6 Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaill

yn nhŷ ei dad, a dweud:

“Mae gen ti gôt –

bydd di'n feistr arnon ni.

Cei di wneud rhywbeth o'r llanast yma,”

7 Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud,

“Alla i ddim gwella'ch briwiau chi;

does gen i ddim bwyd yn y tŷ

a does gen i ddim côt chwaith.

Peidiwch gwneud fi'n feistr arnoch chi!”

8 Mae Jerwsalem yn gwegian,

a Jwda wedi syrthio,

am ddweud a gwneud pethau

yn erbyn yr ARGLWYDD,

a herio'i fawredd.

9 Mae eu ffafriaeth wrth farnuCroes yn tystio yn eu herbyn;

maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom,

heb geisio cuddio dim!

Gwae nhw! Maen nhw wedi

dod â dinistr arnyn nhw eu hunain.

10 Dywed:

Bydd hi'n dda ar y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn;

byddan nhw'n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd.

11 Ond gwae y rhai sy'n gwneud drwg,

bydd pethau'n ddrwg arnyn nhw;

byddan nhw'n cael blas o'r hyn wnaethon nhw i bobl eraill.

12 Bydd plant yn feistri ar fy mhobl,

a merched yn eu rheoli.

O fy mhobl,

mae dy arweinwyr yn dy gamarwain;

maen nhw wedi dy ddrysu.

Duw yn barnu

13 Mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,

mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd.

14 Mae'r ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad yma

yn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl:

“Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan! Ref

Mae'r hyn sydd wedi'i ddwyn oddi ar y tlawd

yn eich tai chi.

15 Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i,

a gorthrymu'r rhai tlawd?”

—meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.

Merched Jerwsalem

16 Yna dwedodd yr ARGLWYDD:

“Mae merched Seion mor falch,

yn dal eu pennau i fyny,

yn fflyrtian â'u llygaid

ac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog,

a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd.”

17 Felly bydd y Meistr yn gwneud i rash

ddod ar bennau merched Seion.

Bydd yr ARGLWYDD yn siafio'u talcennau nhw.

18 Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â'u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant, 19 y clustdlysau, y breichledau, a'r fêl; 20 y diadem, y cadwyni, a'r sash; y ffiolau persawr a'r swyndlysau; 21 y sêl-fodrwy a'r fodrwy drwyn; 22 y dillad hardd, y cotiau, a'r siôl; y pyrsiau, 23 y gwisgoedd sidan, a'r dillad lliain; y twrban a'r clogyn. 24 Wedyn –

yn lle persawr bydd pydredd;

yn lle'r rhwymyn bydd rhaff;

yn lle steil gwallt bydd moelni;

yn lle mantell wedi'i brodio bydd sachliain.

Ie, cywilydd yn lle harddwch.

25 Bydd dy ddynion yn cael eu lladd â'r cleddyf,

a'th filwyr yn syrthio yn y frwydr.

26 Bydd galaru wrth giatiau'r ddinas –

a hithau wedi'i gwagio

ac yn eistedd ar lawr.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity