Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 30

Peidio disgwyl help o'r Aifft

1 “Gwae chi, blant ystyfnig,” meddai'r ARGLWYDD –

“yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau,

a ffurfio cynghreiriau wnes i ddim eu hysbrydoli!

A'r canlyniad? –

Pentyrru un pechod ar y llall!

2 Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi,

a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyn

a'u cuddio dan gysgod yr Aifft.

3 Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd,

a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,

4 er bod ganddo swyddogion yn Soan

a llysgenhadon mor bell â Chanes. Ref

5 Cânt eu cywilyddio'n llwyr,

am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw –

dim help o gwbl!

Fyddan nhw'n elwa dim,

ond yn profi siom a chywilydd.”

6 Neges am ‛Anifeiliaid y Negef‛:

Yn nhir trafferthion a chaledi,

gwlad y llewes a'r llew cry,

y neidr a'r wiber wibiog,

maen nhw'n cario'u cyfoeth ar gefn asynnod,

a'u trysorau ar gefn camelod,

ar ran pobl sy'n dda i ddim.

7 Mae'r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl!

Felly, dw i'n ei galw hi'n “Yr un falch sy'n fud.”

Pobl anufudd

8 Tyrd nawr, ysgrifenna hyn ar lechen a'i gofnodi mewn sgrôl,

i fod yn dystiolaeth barhaol i'r dyfodol.

9 Achos maen nhw'n bobl anufudd ac yn blant sy'n twyllo –

plant sy'n gwrthod gwrando

ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddysgu.

10 Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau,

“Peidiwch â cheisio gweledigaeth,”

ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo

a dweud wrthon ni beth sy'n iawn.

Dwedwch bethau neis – er eu bod yn gelwydd!

11 Trowch o'r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn!

Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!”

12 Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud:

Am eich bod wedi gwrthod y neges yma,

a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus –

13 bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio,

ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.

14 Bydd yn torri'n ddarnau,

fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion –

bydd wedi darfod.

Fydd dim un darn yn ddigon o faint

i godi marwor o badell dân neu wagio dŵr o bwll.

15 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud:

“Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub;

wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.”

Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.

16 “Na,” meddech chi.

“Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” –

a dyna wnewch chi.

“Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” –

ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!

17 Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc;Croes

pump yn bygwth a phawb yn dianc.

Bydd cyn lleied ar ôl, byddan nhw fel

polyn fflag ar ben bryn,

neu faner ar ben mynydd.

Duw eisiau bendithio'i bobl

18 Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi;

bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.

Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn,

ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!

19 Wir i chi, bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi. 20 Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain. 21 Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!” 22 Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi'u gorchuddio ag arian, a'r delwau metel ag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud, “Budreddi!”

23 Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi'i hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny, 24 a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi'i nithio â fforch a rhaw.

25 Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio. 26 Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.

Cosbi Asyria

27 Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hun

yn dod o bell, yn wyllt gynddeiriog,

yn corddi o'i fewn.

Mae'n siarad yn ddig, a'i eiriau fel tân yn difa.

28 Mae ei dymer fel llifogydd gwyllt

yn cyrraedd at y gwddf.

Bydd yn ysgwyd y cenhedloedd

mewn gogr i'w dinistrio,

ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloedd

i'w harwain ar gyfeiliorn.

29 Ond byddwch chi'n canu,

fel petai'n noson i ddathlu gŵyl.

Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pib

wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.

30 Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel,

a bydd ei fraich gref yn dod i lawr

ac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog,

fel fflamau tân yn difa,

neu gorwynt, storm a chenllysg.

31 Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria,

sef y wialen ddefnyddiodd i daro.

32 Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisodd

ac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau,

pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.

33 Mae'r goelcerth angladdol wedi'i pharatoi cyn hyn;

mae'n barod ar gyfer eu brenin.

Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan,

ac mae digon o goed i'w tanio.

Bydd anadl yr ARGLWYDD

fel llif lafa yn dod i'w llosgi.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity