Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 31

Peidiwch trystio'r Aifft

1 Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am help,

a'u ffydd mewn ceffylau rhyfel:

y rhai sy'n dibynnu ar eu holl gerbydau

a'u nifer fawr o farchogion,

yn lle edrych ar Un Sanctaidd Israel

a gofyn am help yr ARGLWYDD.Croes

2 Ond mae e hefyd yn ddoeth!

Mae e'n dod â thrwbwl,

a dydy e ddim yn torri ei air.

Bydd yn codi yn erbyn y genedl ddrwg

a'r rhai sy'n ei helpu i bechu.

3 Pobl feidrol ydy'r Eifftiaid, nid Duw,

a'u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd!

Pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law,

bydd yr helpwr yn baglu

a'r un sy'n cael ei help yn syrthio –

bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda'i gilydd!

4 Dyma mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud wrtho i:

Fel mae llew, neu lew ifanc,

yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth,

a ddim yn dychryn wrth glywed sŵn

criw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl;

dyna sut bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn dod i lawr

i ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn.

5 Fel mae adar yn hofran yn yr awyr,

bydd yr ARGLWYDD hollbwerus

yn amddiffyn Jerwsalem.

Bydd yn ei hamddiffyn a'i hachub,

yn ei harbed a'i rhyddhau.

6 Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn. 7 Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.

8 “Bydd Asyria'n cael ei difa,

ond nid gan gleddyf dynol;

cleddyf Duw fydd yn eu taro.

Byddan nhw'n ffoi rhag y cleddyf,

ond bydd eu milwyr gorau'n gaethweision.

9 Bydd eu ‛craig‛ yn diflannu mewn dychryn,

a'u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.”

Dyna mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud –

yr un sydd â'i dân yn Seion,

a'i ffwrnais yn Jerwsalem.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity