Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 34

Barnu'r gwledydd i gyd

1 Dewch yma, chi wledydd, i wrando!

Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd!

Boed i'r ddaear a phawb arni wrando –

y byd, a phopeth sydd ynddo.

2 Mae'r ARGLWYDD wedi digio gyda'r gwledydd;

mae'n wyllt gyda'u holl fyddinoedd,

a bydd yn eu dinistrio a'u lladd nhw.

3 Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan –

bydd y drewdod yn ofnadwy

a bydd y mynyddoedd wedi'u trochi â'u gwaed.

4 Bydd y sêr i gyd yn diffodd,

a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl.

Bydd y sêr i gyd yn syrthio

fel dail yn disgyn o'r winwydden,

neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys.

5 “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr,

ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom,

ar y bobl dw i wedi'u dedfrydu i'w difrodi.”Croes

6 Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed,

a'i fodloni gyda braster anifeiliaid –

gwaed ŵyn a bychod geifr,

a'r braster ar arennau hyrddod.

Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra,

a lladdfa yn Edom.

7 Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw,

bustych a theirw.

Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed,

a'r llawr wedi'i orchuddio gan fraster.

8 Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial –

mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion.

9 Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom,

a bydd ei phridd yn troi'n lafa.

Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi,

10 a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos;

bydd mwg yn codi ohono am byth.

Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau;

fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.

11 Bydd tylluanod a draenogod yn ei meddiannu;

y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno.

Bydd Duw yn ei mesur i achosi anhrefn

ac yn ei phwyso i'w gwagio.

12 I ble'r aeth ei huchelwyr?

Does dim y fath beth â theyrnas ar ôl!

Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu.

13 Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai,

danadl a mieri yn ei threfi caerog.

Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid,

ac yn dir i'r estrys fyw ynddo.

14 Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno,

a'r gafr-ddemoniaidCroes yn galw ar ei gilydd.

Yno bydd creaduriaid y nos yn gorffwys ac yn nythu,

15 a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau,

i'w deor a gofalu amdanyn nhw.

Bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno,

pob un gyda'i gymar.

16 Astudiwch a darllenwch sgroliau'r ARGLWYDD,

heb adael dim allan, a heb golli llinell.

Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl,

a'i ysbryd e sydd wedi'u casglu at ei gilydd.

17 Fe sydd wedi rhoi ei siâr i bob un

ac wedi rhannu'r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur.

Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth –

byddan nhw'n byw yno ar hyd yr oesoedd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity