Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 38

Heseceia'n cael ei daro'n wael, a bron yn marw

(2 Brenhinoedd 20:1-11; 2 Cronicl 32:24-26)

1 Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; fyddi di ddim yn gwella.” 2 Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, 3 “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crio.

4 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Eseia: 5 “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. 6 Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma. 7 A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi'i addo: 8 Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.”’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw.

9 Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch:

10 “Meddyliais,

‘Dw i'n mynd i farw, a minnau'n ddim ond canol oed.

Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwn Ref

am weddill fy nyddiau.’

11 Meddyliais:

‘Ga i byth weld yr ARGLWYDD

yn y bywyd hwn eto,

nac edrych ar y ddynoliaeth

fel y rhai sydd wedi peidio â bod.’

12 Mae fy mywyd wedi'i gymryd oddi arna i

a'i symud fel pabell bugail.

Roedd fy mywyd wedi ei rolio i fyny fel lliain

wedi'i dorri i ffwrdd o'r wŷdd.

Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

13 Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd.

Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

14 Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur,

ac yn cŵan fel colomen,

wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny.

‘Fy ARGLWYDD, dw i'n cael fy llethu!

Achub fi!’

15 Beth alla i ei ddweud?

Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud,

a dyna wnaeth e!

Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus

am fod fy enaid mor chwerw.

16 Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio,

ac mae bywyd yn fy nghalon eto.

Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi.

‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’

17 Yn wir, roedd yr holl chwerwder yma

yn lles i mi:

‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant,

a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.’

18 ‘Dydy'r rhai sydd yn Annwn Ref ddim yn diolch i ti,

a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di.

Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll

ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.

19 Y rhai byw, dim ond y rhai byw

sy'n gallu diolch i ti fel dw i'n gwneud heddiw.

Mae tad yn dweud wrth ei blant

am dy ffyddlondeb di:

20 mae'r ARGLWYDD wedi'n hachub ni!

Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd

yn nheml yr ARGLWYDD

weddill ein bywydau!’”

21 Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi'u gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” 22 Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity