Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 42

Gwas yr ARGLWYDD

1 Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal,

yr un dw i wedi'i ddewis ac sydd wrth fy modd i!

Rhof fy ysbryd iddo,

a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd.

2 Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais,

nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.

3 Fydd e ddim yn torri brwynen fregus

nac yn diffodd llin sy'n mygu.

Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni.

4 Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio

nes iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear.

Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”

5 Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan, yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi, yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni:

6 “Fi ydy'r ARGLWYDD,

dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn,

a gafael yn dy law.

Dw i'n gofalu amdanat ti,

ac yn dy benodi'n ganolwr fy ymrwymiad i bobl,

ac yn olau i genhedloedd –

7 i agor llygaid y dall,

rhyddhau carcharorion o'u celloedd,

a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar.

8 Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i.

Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall,

na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau.

9 Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir,

a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd.

Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhw

cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”

Canu cân o fawl i'r ARGLWYDD

10 Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,

canwch ei glod o ben draw'r byd –

chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo,

a chi sy'n byw ar yr ynysoedd!

11 Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau,

a'r pentrefi lle mae crwydriaid Cedar yn byw.

Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela,

a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.

12 Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD,

a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.

13 Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr

ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel.

Mae e'n gweiddi – yn wir, mae e'n rhuo

wrth ymosod ar ei elynion.

Duw yn addo helpu ei bobl

14 “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir –

wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl.

Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn,

dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.

15 Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd,

a gwneud i bob tyfiant wywo.

Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych,

a sychu'r pyllau dŵr hefyd.

16 Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddall

ar hyd ffordd sy'n newydd,

a gwneud iddyn nhw gerdded

ar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw.

Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaen

ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn.

Dyma dw i'n addo ei wneud –

a dw i'n cadw fy ngair.

Methiant Israel i wrando ac i weld

17 Bydd y rhai sy'n trystio eilunod

yn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio,

sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel,

‘Chi ydy'n duwiau ni!’”

18 Gwrandwch, chi'r rhai byddar;

ac edrychwch, chi sy'n ddall!

19 Pwy sy'n ddall fel fy ngwas,

neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon?

Pwy sy'n ddall fel yr un dw i wedi ymrwymo iddo?

Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?

20 Er dy fod yn gweld llawer, ti ddim yn ystyried;

er bod gen ti glustiau, ti ddim yn gwrando.

21 Roedd yr ARGLWYDD wedi'i blesio ei fod yn gyfiawn,

a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw.

22 Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth:

maen nhw i gyd wedi'u dal mewn tyllau,

a'u carcharu mewn celloedd.

Maen nhw'n ysglyfaeth, a does neb i'w hachub;

maen nhw'n ysbail, a does neb yn dweud, “Rho nhw'n ôl!”

23 Pwy sy'n barod i wrando ar hyn?

Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!

24 Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio,

a rhoi Israel i'r lladron?

Yr ARGLWYDD, wrth gwrs –

yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn!

Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau,

na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.

25 Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw,

a thrais rhyfel.

Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman,

ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers.

Cawson nhw eu llosgi,

ond gymron nhw ddim sylw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity