Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 43

Yr ARGLWYDD yn achub ei bobl

1 Nawr, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel:

“Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd!

Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!

2 Pan fyddi di'n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti;

neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd.

Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di'n cael dim niwed;

fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.

3 Achos fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di,

Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di!

Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti,

Cwsh Ref a Seba yn dy le di.

4 Dw i'n dy drysori di ac yn dy garu di,

achos ti'n werthfawr yn fy ngolwg i.

Dw i'n barod i roi'r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti,

a'r bobloedd yn dy le di.

5 Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.

Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain,

ac yn dy gasglu di o'r gorllewin.

6 Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’

ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’

Tyrd â'm meibion i o wledydd pell,

a'm merched o ben draw'r byd –

7 pawb sydd â'm henw i arnyn nhw,

ac wedi'u creu i ddangos fy ysblander i.

Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw.

Pobl Israel yn dystion i Dduw

8 Dewch â nhw allan,

y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid,

ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau.

9 Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd,

a gwledydd y byd wedi ymgasglu.

Pa un o'u duwiau nhw soniodd am hyn,

a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd?

Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain,

er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”

10 “Chi ydy fy nhystion i,”

—meddai'r ARGLWYDD,

“a'r gwas dw i wedi'i ddewis

i wybod ac i gadarnhau

eich bod chi'n deall mai fi ydy e.

Doedd dim duw o'm blaen i,

a fydd yna ddim un ar fy ôl i.

11 Fi, ie fi ydy'r unig ARGLWYDD,

a does neb ond fi yn gallu achub.

12 Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw,

fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi,

dim rhyw dduw dieithr –

a dych chi'n dystion o'r peth.”

—meddai'r ARGLWYDD.

“Fi ydy'r unig Dduw,

13 Fi ydy e o'r dechrau cyntaf!

Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i.

Pan dw i'n gwneud rhywbeth,

does neb yn gallu ei ddadwneud.”

Dianc o Babilon

14 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel:

“Dw i'n mynd i'w anfon e i Babilon er dy fwyn di.

Bydda i'n bwrw ei barrau haearn i lawr,

a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar.

15 Fi ydy'ch Un Sanctaidd chi, yr ARGLWYDD,

eich Brenin chi, yr un greodd Israel.”

16 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un agorodd ffordd drwy'r môr a llwybr drwy'r dyfroedd mawr, 17 yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a'r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw'n gorwedd gyda'i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll):

18 “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol,

a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen!

19 Edrychwch, dw i'n gwneud rhywbeth newydd!

Mae ar fin digwydd!

Ydych chi ddim yn ei weld?

Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch,

a rhoi afonydd yn y tir diffaith.

20 Bydd anifeiliaid gwyllt yn diolch i mi,

y siacaliaid a'r estrys,

am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch,

ac afonydd mewn tir diffaith,

i roi diod i'r bobl dw i wedi'u dewis –

21 y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun,

iddyn nhw fy moli i.”

Pechod Israel

22 “Ond ti ddim wedi galw arna i, Jacob;

rwyt ti wedi blino arna i, Israel.

23 Ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i'w losgi i mi,

nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau.

Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn,

na dy boeni di am yr arogldarth o thus.

24 Ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mi

na'm llenwi gyda braster dy aberthau.

Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i,

a'm blino gyda dy ddrygioni.

25 Fi, ie, fi – er fy mwyn fy hun –

ydy'r un sy'n dileu dy wrthryfel di,

ac yn anghofio am dy bechodau di.

26 Atgoffa fi. Gad i ni drafod gyda'n gilydd.

Gad i mi glywed dy ochr di o'r stori;

ceisia di brofi dy fod yn ddieuog!

27 Pechodd dy dad cyntaf yn fy erbyn i,

wedyn cododd dy arweinwyr yn fy erbyn i.

28 Felly dyma fi'n halogi arweinwyr y cysegr,

a gadael i Jacob gael ei alltudio

ac i Israel fod yn destun sbort.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity