Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 45

Cyrus yn ufuddhau i'r ARGLWYDD

1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi'i eneinio, yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd, yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau:

2 “Dw i'n mynd o dy flaen di

i fwrw waliau dinasoedd i lawr,

dryllio drysau pres a thorri'r barrau haearn.

3 Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch,

stôr o gyfoeth wedi'i guddio o'r golwg –

er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD,

Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.

4 Dw i wedi dy alw di wrth dy enw

er mwyn fy ngwas Jacob,

ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi'i ddewis.

Dw i'n mynd i roi teitl i ti,

er nad wyt ti'n fy nabod.

5 Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall;

does dim duw ar wahân i mi.

Dw i'n mynd i dy arfogi di,

er nad wyt ti'n fy nabod.

6 Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin,

wybod fod neb arall ond fi.

Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall.

7 Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch,

yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl –

Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl.

8 Arllwys law i lawr, o awyr!

Glawiwch gyfiawnder, gymylau!

Agor, ddaear, er mwyn i achubiaeth dyfu,

ac i degwch flaguro.

Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud hyn.”

Rhybudd yr ARGLWYDD

9 Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr,

ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr!

Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd,

“Beth yn y byd wyt ti'n wneud?”

neu, “Does dim dolen ar dy waith”?

10 Gwae'r un sy'n dweud wrth dad,

“Beth wyt ti'n ei genhedlu?”

neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”

11 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio:

“Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant?

Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?

12 Fi wnaeth y ddaear, a chreu'r ddynoliaeth arni.

Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr a rhoi trefn ar y sêr.

13 A fi sydd wedi codi Cyrus i achub

ac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd.

Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i,

ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhydd

heb unrhyw dâl na gwobr,”

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

14 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affrica Ref

a'r Sabeaid tal yn dod yn eiddo i ti.

Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni,

yn plygu o dy flaen ac yn pledio:

‘Dim ond gyda ti mae Duw,

a does dim duw arall o gwbl!’”

15 Ti'n sicr yn Dduw sy'n cuddio'i hun,

O Dduw Israel, yr un sy'n achub!

16 Bydd y rhai sy'n cerfio eilunod

yn teimlo cywilydd ac embaras –

byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd.

17 Mae Israel yn saff gyda'r ARGLWYDD

ac yn cael ei hachub am byth!

Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embaras

byth bythoedd!

18 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd, yr unig Dduw, a wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle – nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni:

“Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall.

19 Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol,

mewn rhyw le tywyll.

Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob,

‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas.’ –

Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn,

ac yn dweud y gwir.

20 Dewch yma! Dewch ata i gyda'ch gilydd,

chi ffoaduriaid y cenhedloedd!

Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim,

na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiau

sydd ddim yn gallu achub!

21 Cyflwynwch eich tystiolaeth –

gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd!

Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw?

Pwy soniodd am y peth o'r dechrau?

Onid fi, yr ARGLWYDD?

Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi!

Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub –

does dim un arall!

22 Dewch o ben draw'r byd;

trowch ata i i gael eich achub!

Achos fi ydy Duw, a does dim un arall.

23 Dw i wedi mynd ar fy llw, dw i'n dweud y gwir,

fydda i'n cymryd dim yn ôl:

‘Bydd pob glin yn plygu i mi,

a phob tafod yn tyngu i mi!

24 Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDD

yn Dduw cyfiawn a chryf!”’”

Bydd y rhai gododd yn ei erbyn

yn troi ato mewn cywilydd.

25 Bydd disgynyddion Israel

yn cael eu hachub gan yr ARGLWYDD

ac yn canu mawl iddo.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity