Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 46

Duwiau diwerth Babilon

1 Mae Bel ar ei liniau,

a Nabw Ref yn gorwedd ar ei wyneb.

Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw,

pethau mae'n rhaid eu cario – llwyth trwm

ar gefn anifeiliaid blinedig!

2 Maen nhw hefyd wedi syrthio a phlygu gyda'i gilydd;

doedd dim modd arbed y llwyth,

ac maen nhw ar eu ffordd i'r gaethglud.

3 “Gwrandwch arna i, bobl Jacob,

a phawb sydd ar ôl o bobl Israel.

Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth,

a dw i wedi'ch cynnal chi ers i chi gael eich geni.

4 A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen;

bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn!

Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi –

fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub.

5 Pwy sy'n cymharu hefo fi?

Oes rhywun tebyg i mi?

Dwedwch i bwy dw i'n debyg?

Oes rhywun sydd yr un fath â mi?

6 Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrs

ac yn pwyso'u harian mewn clorian,

yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw,

ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen!

7 Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau,

ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed,

a dydy e ddim yn gallu symud!

Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb;

a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i drafferthion!

8 Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith!

Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!

9 Cofiwch beth dw i wedi'i wneud yn y gorffennol.

Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod.

Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.

10 Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,

ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.

Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;

dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’

11 Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain, Ref

yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i.

Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd;

fi sydd wedi'i gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud!

12 Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff,

sy'n cadw draw oddi wrth beth sy'n iawn:

13 dw i ar fin gwneud pethau'n iawn;

dydy hyn ddim yn y dyfodol pell –

fydd achubiaeth ddim yn cael ei gohirio.

Dw i'n mynd i achub Seion!

A rhoi fy ysblander i Israel!”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity