Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 47

Bydd Babilon yn syrthio

1 “I lawr â ti! Eistedd yn y llwch,Croes

o wyryf, ferch Babilon.

Eistedd ar lawr, ferch y Babiloniaid,

mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod.

Gei di ddim dy alw yn dyner ac yn dlos byth eto.

2 Gafael yn y felin law i falu blawd.

Tyn dy fêl, rhwyga dy wisg,

a dangos dy goesau wrth gerdded drwy afonydd. Ref

3 Byddi'n gwbl noeth, a bydd

dy rannau preifat yn y golwg.

Dw i'n mynd i ddial,

a fydd neb yn fy rhwysto i.”

4 Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud

—yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw—

Un Sanctaidd Israel.

5 “Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch, ferch y Babiloniaid.

Gei di ddim dy alw yn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto.

6 Rôn wedi digio gyda'm pobl,

felly cosbais fy etifeddiaeth;

rhoddais nhw yn dy ddwylo di,

ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw.

Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin pobl mewn oed.

7 ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti.

Wnest ti ddim meddwl am funud

beth fyddai'n digwydd yn y diwedd.Croes

8 Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio –

ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl,

‘Fi ydy'r un – does neb tebyg i mi!Croes

Fydda i byth yn weddw,

nac yn gwybod beth ydy colli plant.’

9 Ond yn sydyn bydd y ddau beth

yn digwydd ar yr un diwrnod:

colli dy blant a chael dy hun yn weddw.

Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw,

er gwaetha dy holl ddewino a'th swynion gorau.

10 Roeddet ti mor hunanfodlon yn dy ddrygioni,

ac yn meddwl, ‘Does neb yn fy ngweld i.’

Roedd dy ddoethineb a dy glyfrwch

yn dy arwain ar gyfeiliorn,

ac roeddet ti'n dweud wrthot ti dy hun,

‘Fi ydy'r un – does neb tebyg i mi!’

11 Ond mae dinistr yn dod,

a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw.

Mae trychineb ar fin disgyn,

a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd.

Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnat heb yn wybod.

12 Dal ati gyda dy swynion a'th ddewino –

rwyt wedi bod yn ymarfer ers pan oeddet ti'n blentyn!

Falle y cei di help! Falle gwnei di ddychryn y gelyn!

13 Ti'n gwastraffu dy amser yn gwrando ar holl gynghorion

y rhai sy'n syllu i'r awyr ac yn darllen y sêr,

ac yn dweud o fis i fis beth sy'n mynd i ddigwydd i ti!

Gad iddyn nhw sefyll i fyny a dy achub di!

14 Maen nhw fel gwellt yn cael ei losgi'n y tân.

Allan nhw ddim achub eu hunain

rhag gwres y fflamau cryfion.

Nid glo i dwymo wrtho ydy hwn,

neu dân i eistedd o'i flaen!

15 Dyna faint o help ydyn nhw i ti –

y rhai buost ti'n delio gyda nhw ers pan oeddet ti'n blentyn.

Maen nhw i gyd wedi mynd eu ffordd eu hunain,

a does neb ar ôl i dy achub di!”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity