Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 48

Yr ARGLWYDD yn cywiro'i bobl

1 Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob –

chi sy'n cael eich galw wrth yr enw ‛Israel‛

ac yn ddisgynyddion i Jwda,

sy'n tyngu i enw'r ARGLWYDD

ac yn galw ar Dduw Israel –

ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.

2 (Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛,

ac yn honni pwyso ar Dduw Israel,

sef yr ARGLWYDD hollbwerus):

3 “Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd;

dwedais yn glir i bawb glywed.

Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd.

4 Rôn i'n gwybod mor benstiff wyt ti –

mae gewynnau dy wddf fel haearn

a dy dalcen yn galed fel pres.

5 Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl,

a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –

rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,

fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’

6 Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,

pam wnei di ddim cydnabod y peth?

A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd,

pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen

7 pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol.

Ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw,

rhag i ti ddweud, ‘Rôn i'n gwybod hynny!’

8 Ti ddim wedi clywed, a ti ddim yn gwybod;

allet ti ddim bod wedi clywed hyn o'r blaen.

Er fy mod i'n gwybod dy fod ti'n twyllo

ac yn cael dy alw'n rebel ers i ti gael dy eni,

9 dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw da

a bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli;

dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.

10 Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian;

dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.

11 Er fy mwyn fy hun yn unig dw i'n gwneud hyn –

pam ddylai fy enw da gael ei halogi?

Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!

Rhyddhau Israel

12 Gwrandwch arna i, bobl Jacob,

ac Israel, y rhai dw i wedi'u galw:

Fi ydy e – fi ydy'r cyntaf,

a fi ydy'r olaf hefyd.

13 Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun,

a lledu'r awyr gyda'm llaw dde.

Dw i'n eu galw nhw,

ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.

14 ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!

Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –

y bydd ffrind Ref yr ARGLWYDD

yn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,

ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’ Ref

15 Fi ddwedodd! Fi alwodd e.

Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.

16 Dewch ata i yma i glywed hyn:

‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;

a phan mae'n digwydd dw i yna.’”

Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD,

wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.

17 Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:

“Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw,

sy'n dy ddysgu di er dy les,

ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.

18 O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!

Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,

a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr.

19 Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod,

a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod.

Fyddai eu henw nhw ddim wedi'i dorri i ffwrdd

a'i ddileu o'm gŵydd i.

20 Ewch allan ar frys o Babilon,

dianc oddi wrth bobl Caldea!

Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen.

Cyhoeddwch y peth!

Anfonwch y neges i ben draw'r byd!

Dwedwch: ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gollwng

ei was Jacob yn rhydd!

21 Wnaethon nhw ddim profi syched,

er iddo eu harwain nhw drwy'r anialwch.

Gwnaeth i ddŵr lifo o'r graig iddyn nhw;

holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’

22 Does dim heddwch i bobl ddrwg.”Croes

—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity