Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 50

Pechod Israel ac ufudd-dod y gwas

1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam

pan anfonais hi i ffwrdd?

I bwy oeddwn i mewn dyled

nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw?

Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg;

cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.

2 Pam oedd neb yna pan ddes i?

Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw?

Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau?

Ydw i'n rhy wan i achub?

Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu!

Galla i droi afonydd yn anialwch!

Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr,

wedi marw o syched!

3 Galla i wisgo'r awyr mewn du

a'i gorchuddio â sachliain.”

Y gwas yn dal ati

4 Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD,

dafod i mi siarad ar ei ran;

dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig.

Bob bore mae'n fy neffro i ac yn fy nghael i wrando

fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.

5 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando,

a dw i ddim wedi gwrthryfela

na throi fy nghefn arno.

6 Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio,

a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf.

Wnes i ddim cuddio fy wyneb

oddi wrth yr amarch a'r poeri.

7 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu –

felly dw i ddim yn derbyn yr amarch.

Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint,

a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.

8 Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth fy ymyl –

pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn?

Gadewch i ni wynebu'n gilydd!

pwy sydd am fy ngwrthwynebu i?

Gadewch iddo ddod ata i!

9 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i –

pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg?

Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn;

bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.

10 Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD?

Pwy sy'n gwrando ar lais ei was?

Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew,

heb olau ganddo o gwbl,

drystio'r ARGLWYDD

a phwyso ar ei Dduw.

11 Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunain

ac yn paratoi ffaglau –

cerddwch yng ngolau fflam eich tân

a'r ffaglau ydych wedi'u tanio!

Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i:

byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity