Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 52

Jerwsalem yn cael dathlu

1 Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion!

Gwisga dy ddillad hardd,

Jerwsalem, y ddinas sanctaidd!

Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu

byth yn dod i mewn i ti eto.

2 Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat,

eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem!

Tynna'r gefynnau oddi am dy wddf

Seion, y gaethferch hardd!

3 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Cawsoch eich gwerthu am ddim,

a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”

4 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:

“I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft;

ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.

5 Felly, beth sy'n digwydd yma?”

—meddai'r ARGLWYDD.

“Mae fy mhobl wedi'u cipio i ffwrdd am ddim rheswm,

ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.”

—meddai'r ARGLWYDD.

“Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.

6 Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod,

ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud,

‘Dyma fi!’”

7 Mae mor wych gweld negesydd

yn dod dros y mynyddoedd

yn cyhoeddi fod heddwch.

Mae ganddo newyddion da –

mae e'n cyhoeddi achubiaeth

ac yn dweud wrth Seion,

“Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”

8 Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw;

maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd!

Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid,

yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.

9 Gwaeddwch chithau hefyd,

adfeilion Jerwsalem!

Mae'r ARGLWYDD yn cysuro'i bobl

ac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.

10 Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei nerth

i'r cenhedloedd i gyd,

ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweld

ein Duw ni yn achub.

11 Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi!

Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!

Chi sy'n cario llestri'r ARGLWYDD,Croes

cadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.

12 Ond does dim rhaid i chi adael ar frys

na dianc fel ffoaduriaid,

achos mae'r ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi,

ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.

Y gwas sy'n dioddef

13 “Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo;

bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn.

14 Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weld

yn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol

(doedd e ddim yn edrych fel dyn),

15 bydd e'n puro Ref llawer o genhedloedd.

Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen –

byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro,

ac yn deall rhywbeth roedden nhw heb glywed amdano.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity