Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 56

Pobl o bob gwlad yn perthyn i Dduw

1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg!

Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.

2 Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn,

a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth –

y rhai sy'n cadw'r Saboth, heb ei wneud yn aflan,

ac yn stopio'u hunain rhag gwneud drwg.

3 Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud:

‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl.’

A ddylai'r eunuch Ref ddim dweud,

‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’”

4 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau

– sy'n dewis gwneud beth dw i eisiau

ac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –

5 dw i'n mynd i godi cofeb

yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau:

rhywbeth gwell na meibion a merched,

a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.

6 Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo

i wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu,

a dod yn weision iddo –

pawb sy'n cadw'r Saboth heb ei wneud yn aflan,

ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –

7 Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig Ref

i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi.

Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi

ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i;

achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw

yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”

8 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi'u casglu.”

Duw yn addo cosbi arweinwyr drwg y wlad

9 “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwyllt!

Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!

10 Mae'r gwylwyr Ref i gyd yn ddall, ac yn deall dim.

Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth –

yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.

11 Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus

sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon;

bugeiliaid sy'n deall dim!

Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun,

ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.

12 ‘Dewch, dw i am nôl gwin!

Gadewch i ni feddwi ar gwrw!

Cawn wneud yr un fath yfory –

bydd hyd yn oed yn well!’

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity