Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 58

Ymprydio go iawn

1 “Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl;

Cod dy lais fel sain corn hwrdd! Ref

Dwed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela,

ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu.

2 Maen nhw'n troi ata i bob dydd,

ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd.

Yn ôl pob golwg maen nhw'n genedl sy'n gwneud beth sy'n iawn

ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw.

Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn,

ac yn awyddus i glosio at Dduw.

3 ‘Pam oeddet ti ddim yn edrych

pan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw,

‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw

pan oedden ni'n cosbi ein hunain?’

Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunain

ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!

4 Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio,

Dim dyna'r ffordd i ymprydio

os ydych chi eisiau i Dduw wrando.

5 Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau –

diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain,

ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo?

Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw?

Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio,

yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD?

6 Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau:

cael gwared â chadwyni anghyfiawnder,

datod rhaffau'r iau

a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd;

dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.

7 Rhannu dy fwyd gyda'r newynog,

rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartref

a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth;

peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.

8 Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr,

a byddi'n cael dy adfer yn fuan.

Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di,

a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.

9 Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb;

byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’.

Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu,

stopio pwyntio bys a siarad yn gas.

10 Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu'r newynog,

a chwrdd ag anghenion y rhai sy'n diodde.

Wedyn bydd dy olau'n disgleirio yn y tywyllwch,

a bydd dy dristwch yn troi'n olau fel canol dydd!

11 Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser,

yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth,

ac yn dy wneud yn gryf.

Byddi fel gardd wedi'i dyfrio,

neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu.

12 Byddi'n ailgodi'r hen adfeilion,

ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini.

Byddi'n cael dy alw yn

‛atgyweiriwr y waliau‛ ac yn

‛adferwr y strydoedd‛, i bobl fyw yno.

Cadw'r Saboth

13 Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth,

a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i;

os gwnei di alw'r Saboth yn bleser,

parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD,

dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau,

plesio dy hun, a siarad fel y mynni –

14 wedyn gelli ddisgwyl i'r ARGLWYDD gael ei blesio.

Byddi'n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, Ref

a chei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.”

—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity