Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 6

Eseia'n gweld yr ARGLWYDD yn y deml

1 Yn y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw, Ref gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi'r deml.Croes 2 Roedd seraffiaid Ref yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio'i wyneb, dwy i guddio'i goesau, a dwy i hedfan. 3 Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud,

“Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd

ydy'r ARGLWYDD hollbwerus!

Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”

4 Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg.

5 Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.” 6 Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi'i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. 7 Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.”

8 Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” 9 Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:

‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;

edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’

10 Gwna nhw'n ystyfnig,

tro eu clustiau'n fyddar,

a chau eu llygaid –

rhag iddyn nhw weld â'u llygaid,

clywed â'u clustiau,

deall go iawn,

a throi a chael eu hiacháu.”

11 Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb:

“Nes bydd trefi wedi'u dinistrio

a neb yn byw ynddyn nhw:

tai heb bobl ynddyn nhw,

a'r tir wedi'i ddifetha a'i adael yn ddiffaith.”

12 Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd –

a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad.

13 Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl,

fydd honno eto'n cael ei losgi?

“Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi'i thorri i lawr,

a dim ond boncyff ar ôl.

Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd,

fel had sanctaidd.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity