Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 62

Achub Jerwsalem

1 “Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi!

Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys,

nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachar

a'i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.”

2 Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder,

a'r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander;

a byddi di'n cael enw newydd

gan yr ARGLWYDD ei hun.

3 Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD,

neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw.

4 Gei di byth eto yr enw ‛Gwrthodedig‛,

a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‛Anialwch‛.

Na, byddi'n cael dy alw ‛Fy hyfrydwch‛,

a bydd dy wlad yn cael yr enw ‛Fy mhriod‛.

Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti,

a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.

5 Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc,

bydd dy blant yn dy briodi di;

ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig,

bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.

6 Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem.

Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd!

Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;

7 peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem,

a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd.

8 Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder:

“Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷd

yn fwyd i dy elynion byth eto!

A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwin

wnest ti weithio mor galed amdano.

9 Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwyta

ac yn moli'r ARGLWYDD.

A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwin

yn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”

10 Dewch i mewn! Dewch i mewn drwy'r giatiau!

Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod!

Adeiladwch! Adeiladwch briffordd!

Symudwch bob carreg sy'n rhwystr!

Codwch faner dros y bobloedd!Croes

11 Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn

drwy'r byd i gyd:

“Dwedwch wrth Seion annwyl,

‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod!

Edrych! Mae ei wobr ganddo;

mae'n dod â'i roddion o'i flaen.’”

12 Byddan nhw'n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd.

Pobl Rydd yr ARGLWYDD.”

A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw,

“Yr un gafodd ei cheisio,”

“Dinas heb ei gwrthod”.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity