Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 7

Eseia'n cynnig gobaith i'r Brenin Ahas

1 Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel) yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i'w gorchfygu hi.Croes

2 Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim Ref mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt. 3 Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf Ref i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r gronfa uchaf, ar ffordd Maes y Golchwr. 4 Dwed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’ 5 Mae'r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud, 6 ‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’

7 “Ond dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:

Fydd y cynllun ddim yn llwyddo,

Fydd y peth ddim yn digwydd.

8-9 Damascus ydy prifddinas Syria,

a Resin ydy pennaeth Damascus.

Samaria ydy prifddinas Effraim,

a Remaleia ydy pennaeth Samaria.

Mewn llai na chwe deg pum mlynedd

bydd Effraim wedi chwalu a pheidio â bod yn bobl.

Os na wnewch chi gredu,

wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”

10 Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Ahas eto: 11 “Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti – unrhyw beth, does dim ffiniau.” 12 Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi'r ARGLWYDD ar brawf.” 13 Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy e ddim yn ddigon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd? 14 Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel. Ref Croes 15 Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl. 16 Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin rwyt ti'n eu hofni wedi'i adael yn wag. 17 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd drwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim Ref wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.” 18 Bryd hynny,

bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybed

sydd yn afonydd pell yr Aifft

a'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.

19 Byddan nhw'n dod ac yn glanio

yn y cymoedd cul, serth

a'r hafnau sydd yn y creigiau,

yn y llwyni drain

a'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.

20 Bryd hynny,

bydd y Meistr yn defnyddio'r rasel

mae wedi'i llogi yr ochr draw i afon Ewffrates

(sef brenin Asyria)

i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat;

a bydd yn siafio'r farf hefyd.

21 Bryd hynny,

bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr.

22 Byddan nhw'n rhoi digon o laeth

iddo fwyta caws colfran.

Caws colfran a mêl fydd bwyd

pawb sydd ar ôl yn y wlad.

23 Bryd hynny,

bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd

(oedd yn werth mil o ddarnau arian)

yn anialwch o ddrain a mieri.

24 Dim ond gyda bwa saeth fydd dynion yn mynd yno,

am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.

25 Fydd neb yn mynd i'r bryniau

i drin y tir gyda chaib

am fod cymaint o ddrain a mieri.

Yn lle hynny bydd yn dir agored

i wartheg a defaid bori arno.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity