Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 8

Rhybudd a gobaith

1 Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno'n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’.” Ref 2 Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia. 3 Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas, 4 achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”

Mae Asyria'n dod

5 A dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda mi eto:

6 “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa, Ref

sy'n llifo'n dawel,

ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.

7 Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf

yr Ewffrates lifo drostyn nhw –

sef brenin Asyria a'i fyddin.

Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau,

ac yn gorlifo'i glannau.

8 Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd

ac yn codi at y gwddf.

Mae ei adenydd wedi'u lledu

dros dy dir i gyd, Emaniwel!”

9 Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!

Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd:

paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio;

paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio!

10 Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu!

Cytunwch beth i'w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo.

Achos mae Duw gyda ni!

Yr ARGLWYDD yn annog Eseia

11 Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai'n gafael ynof fi a'm rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â'r bobl yma:

12 “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’

bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn!

Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn

beth maen nhw'n ei ofni.

13 Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy'r un i'w barchu!

Fe ydy'r unig un i'w ofni,

a dychryn rhagddo!

14 Bydd e'n gysegr –

ond i ddau deulu brenhinol Israel

bydd yn garreg sy'n baglu pobl

a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.

Bydd fel trap neu fagl

i'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.

15 Bydd llawer yn baglu,

yn syrthio ac yn cael eu dryllio;

ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”

Tystiolaeth Eseia

16 Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i chadw gan fy nisgyblion i. 17 Dw i'n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i'n ei drystio fe! 18 Dyma fi, a'r plant mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion.

19 Bydd pobl yn dweud wrthoch chi,

“Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaid

sy'n sgrechian a griddfan.

Oni ddylai pobl geisio'u ‛duwiau‛ –

holi'r meirw ar ran y byw?”

20 “At y gyfraith a'r dystiolaeth!

Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges yma,

maen nhw yn y tywyllwch.”

21 Maen nhw'n cerdded o gwmpas

mewn eisiau a newyn.

Am eu bod yn llwgu byddan nhw'n gwylltio

ac yn melltithio'u brenin a'u ‛duwiau‛,

wrth edrych i fyny.

22 Wrth edrych ar y tir

does dim i'w weld ond trwbwl a thywyllwch,

düwch a gwewyr meddwl –

bydd wedi'i daflu i dywyllwch dudew.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity