Yn ôl

Eseia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESEIA 9

1 Ond fydd y tywyllwch ddim yn para

i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng!

Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon

a thir Nafftali eu cywilyddio;

ond yn y dyfodol bydd Duw

yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd,

ar Ffordd y Môr,

a'r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen.

Y rhyfel drosodd

2 Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch

wedi gweld golau llachar.

Mae golau wedi gwawrio

ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.

3 Ti wedi lluosogi'r genedl,

a'i gwneud yn hapus iawn;

maen nhw'n dathlu o dy flaen di

fel ffermwyr adeg y cynhaeaf,

neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.

4 Achos rwyt ti wedi torri'r iau

oedd yn faich arnyn nhw,

a'r ffon oedd yn curo'u cefnau nhw

– sef gwialen y meistr gwaith –

fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian. Ref

5 Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd,

a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed,

yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.

6 Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni,

mab wedi cael ei roi i ni.

Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.

A bydd yn cael ei alw yn

Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,

Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.

7 Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu,

a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw

i orsedd Dafydd a'i deyrnas.

Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau

a theyrnasu'n gyfiawn ac yn deg

o hyn allan, ac am byth.

Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol

o wneud hyn i gyd.

Duw yn cosbi Israel

8 Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel. 9 Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim Ref a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Roedden nhw'n falch ac yn ystyfnig, ac yn honni:

10 “Mae'r blociau pridd wedi syrthio,

ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd!

Mae'r coed sycamor wedi'u torri i lawr,

ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”

11 Yna, gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi.

Roedd e wedi arfogi ei gelynion –

12 daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin;

roedd eu cegau'n llydan agored,

a dyma nhw'n llyncu tir Israel.

Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,

roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

13 Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôl

at yr un wnaeth eu taro nhw;

dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD hollbwerus.

14 Felly bydd yr ARGLWYDD yn torri

pen a chynffon Israel,

y gangen balmwydd a'r frwynen

ar yr un diwrnod.

15 Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen;

y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.

16 Mae'r arweinwyr wedi camarwain,

a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.

17 Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc;

dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon.

Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg;

maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl.

Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,

roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

18 Mae drygioni yn llosgi fel tân,

ac yn dinistrio'r drain a'r mieri;

mae'n llosgi drwy ddrysni'r coed

nes bod y mwg yn codi'n golofnau.

19 Pan mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi digio,

mae'r wlad yn llosgi.

Mae'r bobl fel tanwydd,

a does neb yn poeni am neb arall.

20 Maen nhw'n torri cig fan yma,

ond yn dal i newynu;

maen nhw'n bwyta fan acw

ond ddim yn cael digon.

Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd –

21 Manasse'n ymosod ar Effraim

ac Effraim ar Manasse,

a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda!

Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,

Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity