Yn ôl

Barnwyr

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

BARNWYR 20

Pobl Israel yn paratoi i fynd i ryfel

1 Dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd yn un dyrfa fawr o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Roedden nhw wedi dod o bobman – o Dan yn y gogledd i Beersheba Ref yn y de, ac o dir Gilead i'r dwyrain o afon Iorddonen. 2 A dyma arweinwyr llwythau Israel yn cymryd eu lle – roedd 400,000 o filwyr traed wedi'u harfogi yno i gyd.

3 Clywodd llwyth Benjamin fod gweddill pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. A dyma bobl Israel yn gofyn, “Sut allai peth mor ofnadwy fod wedi digwydd?” 4 Atebodd y dyn o lwyth Lefi (gŵr y wraig oedd wedi cael ei llofruddio), “Rôn i a'm partner wedi cyrraedd Gibea, sydd ar dir Benjamin, i aros dros nos. 5 A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynu'r tŷ lle roedden ni'n aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny, dyma nhw'n treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw. 6 Roedd yn beth hollol erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel. 7 Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth ddylid ei wneud!”

8 Dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl – 9 nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad. 10 Bydd degfed ran dynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea, byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.” 11 Felly aeth dynion Israel i gyd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.

12 Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy? 13 Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni, i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.” Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu. 14 Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel. 15 Roedd dau ddeg chwe mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun. 16 Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed i drwch blewyn gyda charreg o ffon dafl.

17 Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol. 18 Cyn y frwydr, aethon nhw i Bethel Ref i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”

Y frwydr

19 Yn gynnar y bore wedyn, dyma fyddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea. 20 Dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a threfnu'u hunain yn rhengoedd yn barod i ymosod ar Gibea. 21 Ond daeth milwyr llwyth Benjamin allan o Gibea, a lladd dau ddeg dwy fil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw. 22 Ond wnaeth byddin Israel ddim digalonni. Dyma nhw'n mynd allan eto, a sefyll mewn trefn yn yr un lle â'r diwrnod cynt. 23 Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crio o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!”

24 Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod. 25 Ond daeth milwyr Benjamin allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel. 26 Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crio o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Buon nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. 27-28 Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. Dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n eich dwylo chi.”

29 Felly dyma Israel yn anfon dynion i guddio o gwmpas Gibea, i ymosod yn ddirybudd. 30 Y diwrnod wedyn, dyma'r fyddin yn mynd allan eto i ymosod ar lwyth Benjamin. Roedden nhw'n sefyll yn rhengoedd fel o'r blaen, yn barod i ymosod ar Gibea. 31 A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd yn eu herbyn, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea). 32 Felly roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd. 33 Pan ddaeth byddin Israel i Baal-tamar, dyma nhw'n ailgasglu a threfnu'u hunain yn rhengoedd, yn barod i ymladd. Yr un pryd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan 34 ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro'n filain, ond doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.

Sut oedd Israel wedi ennill y frwydr

35 Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd 25,100 o filwyr Benjamin eu lladd. 36 Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw! Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea. 37 Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar y dre a lladd pawb oedd yn byw yno. 38 Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo – sef, cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref. 39 Dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod.

Pan oedd milwyr Benjamin wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel, roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen. 40 Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr. 41 Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw. 42 Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad. 43 Roedden nhw wedi amgylchynu byddin Benjamin a wnaethon nhw ddim stopio mynd ar eu holau. Roedden nhw'n eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i'r dwyrain o Geba.

44 Roedd un deg wyth o filoedd o filwyr gorau llwyth Benjamin wedi'u lladd. 45 Dyma'r gweddill yn dianc i'r anialwch, i gyfeiriad Craig Rimmon. Ond lladdodd byddin Israel bum mil ohonyn nhw ar y ffordd. Dyma nhw'n aros yn dynn ar eu sodlau yr holl ffordd i Gidom, a lladd dwy fil arall. 46 Felly cafodd dau ddeg pum mil o filwyr llwyth Benjamin eu lladd y diwrnod hwnnw – i gyd yn filwyr profiadol. 47 Chwe chant wnaeth lwyddo i ddianc i Graig Rimmon, a buon nhw yno am bedwar mis. 48 Dyma fyddin Israel yn troi'n ôl a mynd drwy drefi Benjamin i gyd, yn lladd popeth byw, pobl ac anifeiliaid. Wedyn roedden nhw'n llosgi'r trefi'n llwyr, bob un.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity