Yn ôl

Barnwyr

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

BARNWYR 5

Debora a Barac yn canu mawl i'r ARGLWYDD

1 Y diwrnod hwnnw, dyma Debora a Barac yn canu cân i ddathlu'r fuddugoliaeth:

2 Pan mae arweinwyr Israel yn arwain,

a dynion yn gwirfoddoli'n frwd,

Molwch yr ARGLWYDD!

3 Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr!

Dw i'n canu i'r ARGLWYDD! –

ie, canu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel.

4 O ARGLWYDD, pan adewaist Seir,

a chroesi gwastatir Edom,

dyma'r ddaear yn crynu,

a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw.

5 Crynodd y mynyddoedd

o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai;

o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel.

6 Yn nyddiau Shamgar, mab Anat,

ac eto yn nyddiau Jael,

roedd pobl yn osgoi'r priffyrdd

ac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.

7 Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel,

nes i ti, Debora, godi,

fel mam yn amddiffyn Israel.

8 Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd,

a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau.

Doedd dim tarian na gwaywffon i'w cael

gan bedwar deg o unedau milwrol Israel.

9 Ond molwch yr ARGLWYDD!

Diolch am arweinwyr Israel,

a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.

10 Gwrandwch bawb! –

chi sy'n marchogaeth asennod gwynion,

yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy,

a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.

11 Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! –

yn canu am y cwbl Ref wnaeth yr ARGLWYDD,

’

a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel.

Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!

12 Deffra! deffra! Debora.

Deffra! deffra! cana gân!

Ar dy draed, Barac!

Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!

13 A dyma'r dynion oedd ar gael

yn dod i lawr at eu harweinwyr.

Daeth pobl yr ARGLWYDD

i ymuno â mi fel rhyfelwyr.

14 Daeth rhai o Effraim

(lle bu'r Amaleciaid yn byw),

a milwyr Benjamin yn eu dilyn.

Daeth capteiniaid i lawr o Machir,

ac uchel-swyddogion o Sabulon.

15 Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora,

ac yn ufudd i orchymyn Barac,

yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn.

Ond roedd pobl llwyth Reuben

yn methu penderfynu beth i'w wneud.

16 Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau?

Ai i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid?

Oedden, roedd pobl llwyth Reuben

yn methu penderfynu beth i'w wneud.

17 A dyma bobl Gilead hefyd

yn aros yr ochr draw i'r Iorddonen

Ac yna llwyth Dan –

pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau?

Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir –

arhosodd yntau ger yr harbwr.

18 Roedd dynion Sabulon a Nafftali

yn mentro'u bywydau ar faes y gâd.

19 Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn,

yn Taanach wrth nentydd Megido.

Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.

20 Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr,

ac ymladd yn erbyn Sisera.

21 Dyma afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd;

roedd yr afon yn eu hwynebu – afon Cison.

O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!

22 Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir,

a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.

23 “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD.

“Melltithiwch bawb sy'n byw yno,

am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD –

ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”

24 Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu,

sef gwraig Heber y Cenead.

Mae hi'n haeddu anrhydedd mwy

nag unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.

25 Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth;

a phowlen hardd o gaws colfran.

26 Gyda peg pabell yn ei llaw chwith

a morthwyl yn y llaw dde,

trawodd Sisera a malu ei benglog –

bwrw'r peg drwy ochr ei ben!

27 Syrthiodd wrth ei thraed.

Syrthio, a gorwedd yn llipa.

Gorwedd ar lawr wrth ei thraed,

yn llipa a difywyd – yn farw!

28 Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl;

mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid:

“Pam mae e mor hir yn dod nôl?

Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”

29 Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpas

yn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath,

30 “Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau,

a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio!

Dillad lliwgar, hardd i Sisera;

dillad gwych o ddefnydd wedi'i frodio,

a sgarff neu ddau i'w gwisgo!”

31 O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gyd

ddarfod yr un fath!

Ond boed i'r rhai sy'n dy garu di

ddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd!

Ar ôl hynny, roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity