Yn ôl

Barnwyr

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

BARNWYR 8

Lladd Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian

1 Ond yna dyma ddynion Effraim yn mynd at Gideon i gwyno, “Wnest ti ddim ein galw ni i helpu i ymladd yn erbyn y Midianiaid. Pam wnest ti'n diystyru ni fel yna?” Roedden nhw'n dadlau'n ffyrnig gydag e. 2 Atebodd Gideon nhw drwy ddweud, “Dw i wedi gwneud dim o'i gymharu â chi. Mae grawnwin gwaelaf Effraim yn well na gorau fy mhobl i. Ref 3 Chi wnaeth Duw eu defnyddio i ddal Oreb a Seëb, dau gadfridog Midian. Dydy beth wnes i yn ddim o'i gymharu â hynny.” Pan ddwedodd hynny, roedden nhw'n teimlo'n well tuag ato.

4 Roedd Gideon a'i dri chant o ddynion wedi croesi afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino'n lân. 5 Dyma nhw'n cyrraedd Swccoth, a dyma Gideon yn gofyn i arweinwyr y dref, “Mae'r dynion yma sydd gyda mi wedi ymlâdd. Wnewch chi roi bwyd iddyn nhw? Dŷn ni'n ceisio dal Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian.” 6 Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!” 7 Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr ARGLWYDD wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.”

8 Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth. 9 Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!”

10 Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!) 11 Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna'n ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd. 12 Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw.

13 Pan oedd y frwydr drosodd, dyma Gideon yn mynd yn ôl drwy Fwlch Cheres. 14 Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo – saith deg saith o ddynion i gyd. 15 Yna dyma Gideon yn mynd at arweinwyr Swccoth, a dweud, “Edrychwch pwy sydd gen i. Seba a Tsalmwna! Roeddech chi'n gwawdio a dweud, ‘Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna. Pam ddylen ni roi bwyd i dy filwyr blinedig di?’” 16 Felly dyma fe'n dal arweinwyr y dref, a'u chwipio nhw'n filain i ddysgu gwers iddyn nhw. Ref 17 Aeth i Penuel wedyn, bwrw eu tŵr i lawr, a dienyddio arweinwyr Ref y dref honno i gyd. ’

18 Yna gofynnodd i Seba a Tsalmwna, “Dwedwch wrtho i am y dynion wnaethoch chi eu lladd yn Tabor.” A dyma nhw'n ateb, “Dynion digon tebyg i ti. Roedden nhw'n edrych fel petaen nhw'n feibion i frenhinoedd.” 19 “Fy mrodyr i oedden nhw,” meddai Gideon. “Wir i chi! Petaech chi wedi gadael iddyn nhw fyw, byddwn i'n gadael i chi fyw.” 20 Yna dyma Gideon yn dweud wrth Jether, ei fab hynaf, “Tyrd, lladd nhw!” Ond roedd Jether yn rhy ofnus i dynnu ei gleddyf – bachgen ifanc oedd e. 21 A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod.

Gideon yn gwneud delw

22 Dyma ddynion Israel yn gofyn i Gideon fod yn frenin arnyn nhw. “Bydd yn frenin arnon ni – ti, a dy fab a dy ŵyr ar dy ôl. Rwyt ti wedi'n hachub ni o afael Midian.” 23 Ond dyma Gideon yn dweud wrthyn nhw, “Na, fydda i ddim yn frenin arnoch chi, na'm mab i chwaith. Yr ARGLWYDD ydy'ch brenin chi.” 24 Ond yna, ychwanegodd, “Gallwch wneud un peth i mi. Dw i eisiau i bob un ohonoch chi roi clustdlws i mi o'i siâr o'r pethau gymeroch chi oddi ar y Midianiaid.” (Ismaeliaid oedden nhw, ac roedden nhw i gyd yn gwisgo clustdlysau aur.) 25 “Wrth gwrs,” medden nhw. A dyma nhw'n rhoi clogyn ar lawr, a dyma'r dynion i gyd yn taflu'r clustdlysau aur ar y clogyn. 26 Roedd y clustdlysau yn pwyso bron dau ddeg cilogram, heb sôn am yr addurniadau siâp cilgant, y tlysau crog, y gwisgoedd brenhinol a'r cadwyni oedd am yddfau'r camelod. 27 A dyma Gideon yn gwneud delw gydag effod arni a'i gosod yn Offra, y dref lle cafodd ei fagu. Ond dechreuodd pobl Israel ei haddoli, ac roedd hyd yn oed Gideon a'i deulu wedi syrthio i'r trap!

Marwolaeth Gideon

28 Dyna sut cafodd y Midianiaid eu trechu'n llwyr gan bobl Israel, a wnaethon nhw erioed godi i fod yn rym ar ôl hynny. Roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, tra oedd Gideon yn dal yn fyw.

29 Aeth Jerwb-baal (sef Gideon), mab Joas, yn ôl adre i fyw. 30 Cafodd saith deg o feibion – roedd ganddo lot fawr o wragedd. 31 Cafodd fab arall drwy bartner Ref iddo, oedd yn byw yn Sichem. Galwodd e yn Abimelech. Ref

32 Roedd Gideon yn hen iawn pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu ym medd ei dad Joas, yn Offra yr Abiesriaid. 33 Ond ar ôl iddo farw, dyma bobl Israel yn puteinio drwy addoli delwau o Baal. Dyma nhw'n gwneud Baal-berith Ref yn Dduw iddyn nhw'u hunain. 34 Wnaeth pobl Israel ddim aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, oedd wedi'u hachub nhw oddi wrth y gelynion oedd yn byw o'u cwmpas. 35 A fuon nhw ddim yn garedig iawn at deulu Gideon Ref chwaith, er gwaetha popeth roedd e wedi'i wneud dros Israel.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity